Yn eisiau o Ionawr y 6ed 2025.
Mae Llywodraethwyr Corff Cysgodol Ysgol Dyffryn Aeron yn awyddus i benodi tri Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 ymroddedig ac ysbrydoledig a fydd yn darparu cefnogaeth a chymorth i’r athro arbenigol o fewn Calon Aeron (Canolfan Anghenion Dysgu Ychwanegol Ysgol Dyffryn Aeron).
Mae hwn yn gyfle euraidd i weithio mewn ysgol ardal newydd sydd â chyfleusterau o’r radd flaenaf. Yn ogystal â Chalon Aeron, bydd yna ganolfan iaith (Canolfan y Felin), ac adnoddau chwaraeon gwych ar safle’r ysgol a’r cyfan mewn ardal odidog yng ngorllewin Cymru.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio’n agos drwy arweiniad yr athro arbenigol i gefnogi, cynorthwyo a chynnal disgyblion Calon Aeron.
Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gefnogi ein egwyddorion craidd a gweithio yn effeithiol fel rhan o dîm cynhwysiant Ysgol Dyffryn Aeron.
Hysbyseb am dair swydd Cynorthwyydd Dysgu Lefel 2 i Ysgol Dyffryn Aeron, ac mae’n ofynnol i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ar gyfer y swydd.
Mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda’r Pennaeth Nia Lloyd Thomas i drafod ymhellach ar y rhif ffôn canlynol: 01570 470650.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
#J-18808-Ljbffr