The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi addysgwr blaengar i ymuno â Chyfadran Technoleg a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yr ysgol er mwyn addysgu Dylunio a Thechnoleg, Tecstilau a Chelf (Bl7-9). Dyma gyflearbennig i’r ymgeisydd i gyfrannu at fwrlwm cyfadran lwyddiannus o fewn yr ysgol. Croesawir ceisiadau gan athrawon profiadol ynghyd ag athrawon newydd gymhwyso.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
* angerddol dros ddatblygu’r pwnc ar draws yr ystod oed
* addysgwr rhagorol
* ymroddedig i wneud y gorau i’r disgyblion ac i gynnig profiadau allgyrsiol gwerthfawr iddynt
Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Os am drafodaeth anffurfiol ynglwn â’r swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Ysgol Bro Teifi, Mr Gareth Evans ar 01559 362503 neu drwy e-bost at EvansG304@broteifi.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch.
#J-18808-Ljbffr