PLEASE SCROLL DOWN FOR ENGLISH Ceidwad y Mynydd Hoffai menter Cwmwd Einion, grwp o ddirfeddianwyr yn nalgylchoedd yr Einion a’r Llyfnant, recriwtio contractwr llawrydd ar gyfer rôl Ceidwad y Mynydd, i gefnogi ffermio cynaliadwy a rheoli cynefinoedd dros 5 daliad tir ym Mhemprys, Dynyn, Bwlch Corog a Chefn Coch. Dylai fod gan y person brofiad o ffermio da byw a thasgau ymarferol rheoli tir. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio mewn cynefin ucheldir anghysbell bob amser o'r flwyddyn. Bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn, a dysgu am waith y tirfeddianwyr yn y grŵp, gan gynnwys ffermio ucheldir, cadwraeth cynefinoedd a rhywogaethau, ac adfer mawndiroedd. Ariennir y swydd i ddechrau gan grant gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur. Telerau Contract: contractwr hunangyflogedig llawrydd gydag yswiriant ei hun. Dylai fod gan y contractwr defnydd cerbyd ei hun at ddibenion gwaith. Ffi: £20/awr neu £150/diwrnod Anghenion Ymrwymiad Amser: 104 diwrnod y flwyddyn (cyfartaledd o 2 ddiwrnod yr wythnos). Bydd y gwaith yn dymhorol, yn dibynnu ar y galw, a thrwy gytundeb â'r tirfeddianwyr dan sylw. Cyfnod prawf o 2 fis. Mae cyllid am 2 flynedd i ddechrau. Tasgau i gynnwys: Gwirio stoc a’i lles, symud stoc.Rheoli fermin / rhywogaethau anfrodorol.Atgyweirio ac uwchraddio ffensys a waliau.Rheoli cynefin e.e. clirio rhedyn, torri gwellt y gweunydd a brwyn.Plannu coed a gofalu am lasbrennau. ENGLISH Mountain Keeper (Ceidwad y Mynydd) The Cwmwd Einion initiative, a group of landowners in the Einion and Llyfnant catchments, would like to recruit a freelance contractor for the role of Ceidwad y Mynydd (Mountain Keeper), to support sustainable farming and habitat management over 5 landholdings at Pemprys, Dynyn, Bwlch Corog and Cefn Coch. The person should have experience of livestock farming and practical land management tasks. The role will involve work in a remote upland habitat at all times of the year. There will be opportunities to be involved in and learn about the work of the landowners in the group, including upland farming, habitat and species conservation, and peatland restoration. The post will initially be funded by a grant from the Nature Networks Fund. Terms and Conditions Contract: freelance self-employed contractor with own insurance. The contractor should have access to their own vehicle for work purposes. Fee: £20/h or £150/day Time Commitment required: 104 days per year (average of 2 days per week). The work will be seasonal, subject to demand, and by agreement with the landowners involved. 2 month probation period. Funding is initially for 2 years. Tasks to include: Stock checks and welfare, moving stock.Vermin / non-native species control.Repairing and upgrading fences and walls.Managing habitat e.g. clearing bracken, mowing molinia and rush.Tree planting and sapling care.