GWEITHREDWR YSTAFELL REOLI’R GWASANAETH TÂN
I weithio cyfartaledd o 42 awr yr wythnos ar shifftiau
Yr Ystafell Rheoli, Canolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd, Llanelwy
Cyflog: Yn dechrau ar £26,852 (hyfforddi) am y 8 wythnos o gyfnod hyfforddi cychwynnol, cyn codi i £27,970 (cymwys). Pan fyddwch yn gwbl gynwys (o leiaf ddwy flynedd), bydd yn codi i £35,791 y flwyddyn (pro-rata os yn gweithio’n rhan amser).
Rydym yn dymuno recriwtio Gweithredwr yr Ystafell Reoli Gwasanaeth Tân i ymuno â’n tîm dros dro am 6 mis gyda chyfleoedd llawn neu ran amser ar gael. Staff yr Ystafell Reoli Tân ydi’r pwynt cyswllt cyntaf mewn argyfwng, a gyda’u sgiliau trin galwadau arbenigol maent yn chwarae rôl hanfodol yn delio gyda digwyddiadau’n llwyddiannus.
Mae’r Ystafell Reoli ar agor drwy’r dydd a’r nos, ac mae’n gweithredu ar sail system shifftiau sy’n darparu gofal 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Byddwch yn rhan o rota shifftiau sydd wedi’i blaen gynllunio 12 mis o flaen llaw ar gyfer gweithwyr amser llawn a rhan amser, ac felly’n eich galluogi i gynllunio’ch bywyd personol yn ochr yn ochr â’ch proffesiwn.
Gan aros yn ddigynnwrf dan bwysau bydd Gweithredwr yr Ystafell Reoli yn derbyn, dethol a chofnodi gwybodaeth y galwyr mewn perthynas â cheisiadau am gymorth brys a difrys. Yna, bydd yr adnoddau mwyaf addas yn cael eu hanfon allan at y digwyddiad yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau sydd yn eu lle. Mae’n rhaid i chi allu meddwl yn gyflym, bod â sgiliau cyfathrebu da a gallu cyfleu cyfarwyddiadau ysgrifenedig a llafar yn gywir yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae’r broses ddethol yn cynnwys nifer o asesiadau (gan gynnwys sgiliau teipio, sgiliau iaith a rhifedd) ac mae’n rhaid eu cwblhau’n llwyddiannus cyn y cyfweliad. Bydd asesiadau technegol a chyfweliadau yn dechrau yn ystod yr wythnos yn cychwyn 14 a 19 o Fai, 2025.
Sylwch fod y swydd hon ar amod proses archwilio cefndir NPPV Lefel 2 Heddlu Gogledd Cymru a geirdaon boddhaol (Rhagwelir y bydd y dyddiad cychwyn ym mis Hydref 2025 ar ôl cwblhau’r broses fetio i ymgeiswyr llwyddiannus). I gael mwy o fanylion am y rôl a’r cyflog, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth.
I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais ydi hanner dydd, 23/04/25
Byddwn yn glynu wrth y dyddiad cau yn llym ac ni fydd eithriadau.