Athro/Athrawes Dros Dro (Cyfnod Mamolaeth)
Salary: Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn
Ffordd y Grug, Llwyncelyn, Porth, Rhondda, CF39 9TL
01443562220
Athro/ Athrawes Dros Dro (Cyfnod Mamolaeth)
Oriau: 32 ½ oriau'r wythnos
Dyddiad dechrau: Ebrill 2025 (1 Tymor)
Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Athro/Athrawes Dros Dro i weithio yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn ac ymuno â'n carfan bresennol.
Mae’r llywodraethwyr, y staff a’r disgyblion yn awyddus i benodi athro dosbarth a fydd yn ymarferwr gwych yn yr ystafell ddosbarth, yn gweithio’n frwdfrydig o fewn tîm ac yn gosod y plentyn wrth galon popeth sy’n bwysig ym mywyd yr ysgol. Rydym yn chwilio am berson sy'n gallu cefnogi'r weledigaeth hon ac adeiladu ar y sylfeini cryfion sydd eisoes yn eu lle.
Mae Ysgol Llwyncelyn yn ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Rhondda. Mae gennym 356 o blant ar y gofrestr gan gynnwys meithrin llawn amser.
Mae Ysgol Llwyncelyn yn ysgol hapus, gynhwysol a chymunedol.
Mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth, Mr Gavin Ashcroft ar head@yggllwyncelyn.rctcbc.cymru am fwy gwybodaeth ac i ymweld â’r ysgol (01443 562220).
Dyddiad cau'r swydd yma yw Dydd Iau Chwefror 20fed am hanner nos.
Rhestr Fer: Dydd Llun, Mawrth 3ydd.
Arsylwad gwers a Chyfweliadau: Dydd Llun, Mawrth 17eg.
Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion gan ddefnyddio’r ddolen: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
#J-18808-Ljbffr