Please note: this is an 18 month fixed-term contract Equal Opportunities At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of. Who we are At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing. We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs. Role responsibilities The purpose of the Senior Project Manager role is to deliver complex commercially focused, transport related change projects to improve transport services, operational efficiency and profitability in line with Welsh Government (WG) transport policy and strategy. Lead on the delivery of a complex cultural and business change programme and experience of working with TUs Lead complex commercially focused transport related projects through the application of robust project lifecycle methodologies (such as APM or PRINCE 2), implementation of project plans and efficient resource management to ensure attainment of key milestones and completion of projects to time, cost and quality. Provide professional and effective project governance through project reporting, facilitation and chairing of technical working groups and executive steering groups in accordance with the required processes and timelines to ensure the projects are managed and communicated effectively. Manage and lead project teams by collaborating with colleagues, consultants and contractors to ensure projects meet delivery outcomes. Act as the ‘Sponsor Agent’ by being the interface between the sponsor and the project, helping to define scope, providing instruction to the delivery team and providing any clarification needed. Ensuring the organisation and sponsor are kept informed of progress, that the project remains visible through effective reporting and that there are no surprises. Who we’re looking for Project management qualification such as APM or PRINCE2 or similar. Demonstrable experience of delivering complex change in the transport sector at a senior level. Demonstrable knowledge of health, safety, and environmental regulations in support of a robust safety culture. Demonstrable experience of managing a budget, including forecasting and monitoring spend. Knowledge and experience of contract management. Welsh Language Skills The ability to speak/write Welsh is an essential requirement for this role. Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses. Next steps Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details. Transport for Wales is a disability leader. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful. This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible. Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications. Note that you must hold the permanent right to work in the UK. We are not currently able to provide sponsorship. Sylwch: mae hwn yn gontract cyfnod penodol am 18 mis Cyfle Cyfartal Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono. Pwy ydyn ni Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb. Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw. Cyfrifoldebau’r swydd Bydd yr Uwch Reolwr Prosiectau’n cyflawni prosiectau newid cymhleth sy’n ymwneud â thrafnidiaeth ac sydd â ffocws masnachol er mwyn gwella gwasanaethau trafnidiaeth, effeithlonrwydd gweithredol a phroffidioldeb yn unol â pholisi a strategaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (LlC). Arwain ar ddarparu rhaglen newid ddiwylliannol a busnes cymhleth a Phrofiad o weithio gydag undebau llafur. Arwain prosiectau cymhleth sy’n ymwneud â thrafnidiaeth ac sydd â ffocws masnachol drwy ddefnyddio methodolegau cylch bywyd prosiect cadarn (fel APM neu PRINCE 2), rhoi cynlluniau prosiect ar waith a rheoli adnoddau’n effeithlon i sicrhau bod cerrig milltir allweddol yn cael eu cyflawni a bod prosiectau’n cael eu cwblhau yn unol â’r amserlen, y gyllideb a’r ansawdd a ddisgwylir. Rheoli prosiectau yn broffesiynol ac yn effeithiol drwy adrodd ar brosiectau, hwyluso a chadeirio gweithgorau technegol a grwpiau llywio gweithredol, yn unol â’r prosesau a’r amserlennu angenrheidiol i sicrhau bod y prosiectau’n cael eu rheoli a’u cyfathrebu’n effeithiol. Rheoli ac arwain timau prosiectau drwy gydweithio â chyd-weithwyr, ymgynghorwyr a chontractwyr i sicrhau bod prosiectau’n cyflawni canlyniadau. Gweithredu fel yr ‘Asiant Noddi’ trwy fod yn rhyngwyneb rhwng y noddwr a’r prosiect, helpu i ddiffinio cwmpas, darparu cyfarwyddyd i’r tîm cyflawni a darparu unrhyw eglurhad sydd ei angen. Sicrhau bod y sefydliad a’r noddwr yn cael gwybod am gynnydd, bod y prosiect yn parhau i fod yn weladwy drwy adrodd yn effeithiol, ac nad oes unrhyw beth annisgwyl. Am bwy rydyn ni’n chwilio Cymhwyster rheoli prosiect fel APM neu PRINCE2 neu debyg. Profiad amlwg o sicrhau newid cymhleth yn y sector trafnidiaeth ar lefel uwch. Gwybodaeth amlwg am reoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol i gefnogi diwylliant cryf o ddiogelwch. Profiad amlwg o reoli cyllideb, gan gynnwys rhagweld a monitro gwariant. Sgiliau Iaith Gymraeg Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol Y camau nesaf A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion. Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus. Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl. Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.