Cynhyrchydd Cynnwys Digidol - Rhan amser
Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
Rydym yn awyddus i benodi Cynhyrchydd Cynnwys Digidol sy'n gyfrifol am gynllunio, datblygu a chreu cynnwys digidol, gweithio â chydweithwyr ar draws y Cwmni i gynrychioli ehangder gwaith WNO, i'w ddefnyddio ar ein sianelu digidol sy'n gwasanaethu cynulleidfaoedd ac ar draws ymgyrchoedd marchnata a'r cyfryngau er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a phresennol a gwella ein hymwybyddiaeth brand.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?
* Cynllunio a datblygu amrywiaeth o asedau digidol mewnol o ansawdd, yn cynnwys gifs, delweddau, ffotograffiaeth a fideo i gael eu defnyddio ar draws WNO a sianeli'r lleoliad a chefnogi cyfathrebiadau ac ymgyrchoedd marchnata.
* Gweithio fel aelod rhagweithiol o'r tîm marchnata i sicrhau y bodlonir yr holl dargedau a Dangosyddion Perfformiad Allweddol, a bod yr ymgyrchoedd yn llwyddiannus.
* Golygu delweddau a ffilm y cynnwys yn ôl yr angen.
* Cynorthwyo gyda rheoli'r gwaith o gynhyrchu rhagluniau'r ffilm a'r brif ffilm, a chyfathrebu briffiau cynnwys ac adborth i asiantaethau, cynhyrchwyr sain ac aelodau tîm, gan sicrhau bod terfynau amser yn cael eu bodloni.
* Goruchwylio ffotograffiaeth ar gyfer holl gynnwys a gohebiaeth WNO, rheoli sesiynau tynnu lluniau gyda chyflenwyr 3ydd parti, ysgrifennu a chyfathrebu briffiau gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol WNO, yn cynnwys y cyfarwyddwyr, a chysylltu â ffotograffwyr. Dewis delweddau, ar y cyd â'r tîm marchnata a chyfathrebu ehangach, i'w ddefnyddio at dibenion hyrwyddo.
* Cefnogi'r Swyddog Cyfathrebu Marchnata Digidol i annog ymwelwyr i'r wefan, ymgysylltiad â’r cyfryngau cymdeithasol a gwerthiant tocynnau ar draws ein llwyfannau digidol sy’n cynrychioli amrediad gweithgarwch ac adrannau WNO.
* Gweithio gyda’r Pennaeth Marchnata a Digidol a’r Swyddog Cyfathrebu Marchnata Digidol i sicrhau bod gwefan WNO yn gwneud y gorau o’i photensial Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO).
Beth fydd ei angen arnoch chi?
Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad:
* Profiad amlwg o gynllunio a chreu cynnwys digidol rhagorol
* Profiad o weithio’n olygyddol a chyda thimau technegol a dylunio digidol i gyfathrebu cynnwys
* Profiad o ddenu cynulleidfaoedd at gynnwys newydd drwy lwyfannau cymdeithasol
* Sgiliau cyfathrebu a rheoli pobl
* Hyderus wrth reoli cyflenwyr a chysylltiadau allanol
* Gallu arwain a dylanwadu ar eraill
* Hyderus wrth wneud penderfyniadau golygyddol doeth
* Sgiliau rheoli prosiect, cyllideb ac amser rhagorol
* Gwybodaeth ragorol o dechnegau a methodoleg rheoli prosiect
* Profiad golygyddol o greu cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc a theuluoedd
* Dealltwriaeth o ganllawiau golygyddol ar gyfer gwahanol oedrannau a grwpiau o ran cynulleidfaoedd
* Gwybodaeth o feddalwedd perthnasol (e.e. Adobe Premiere Pro, FCP etc)
* Gallu gweithio'n dda mewn tîm, gydag ymdeimlad cryf o'u cyfrifoldeb unigol ac yn gallu gweithio ar ei fenter ei hun.
* Gallu siarad/ysgrifennu Cymraeg*
* Diddordeb yn y celfyddydau
* Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth GDPR*
Iechyd a Diogelwch
O fewn y swydd hon, bydd angen derbyn cyfrifoldeb am faterion Iechyd a Diogelwch lefel 6 (gweler yr atodiad)
*dymunol
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Cyflog Cystadleuol
Gwyliau Blynyddol £27,300
Mae gan gydweithwyr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n rhedeg o 1 Medi i 31 Awst.Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn.Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.
Pensiwn Mae'r holl weithwyr yn cael eu hymrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.
Aelodaeth Campfa Mae'r holl weithwyr yn gymwys am y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy'n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd.
Gostyngiadau Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda Future Inns yng Nghaerdydd.
Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC).
Rhaglen Cymorth i Weithwyr Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori am ddim a chyfrinachol sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.
Gwersi Cymraeg Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim.
Cynllun Arian Meddygol ac 'Ychwanegiadau at Fy Nghyflog' Mae pob cydweithiwr wedi’i gofrestru’n awtomatig i gynllun arian meddygol o’r enw BHSF ar lefel Arian, y telir amdano gan WNO. Mae hyn yn golygu bod modd i chi hawlio arian yn ôl ar gyfer gofal iechyd arferol a brys mewn perthynas ag ystod o ofal iechyd gan gynnwys gwasanaethau ffisiotherapi, deintyddol, optegol, osteopathi a mwy.Gallwch hefyd gyrchu gwasanaeth Meddyg Teulu a Phresgripsiwn a gwasanaethau iechyd meddwl/cwnsela.
Mae ‘Ychwanegiadau at Fy Nghyflog’ yn cynnig buddion a gostyngiadau ar wariant bob dydd, gan gynnwys diwrnodau hamdden allan, pryniannau i'r cartref, moduro a theithio.
Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg.Os ydych yn dymuno gwneud cais yn Gymraeg, ni chaiff ei drin yn llai ffafriol na phe byddech yn gwneud cais yn Saesneg.
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â sian.morris@wno.org.uk
Digital Content Producer - Part Time
WNO shares the power of live opera and classical music with audiences and communities across Wales and England. We are a creative and inspiring place to work and recognise that our colleagues play a vital role in advancing our strategic priorities to deliver on our ambitions.
We are currently seeking a Digital Content Producer who will be responsible for planning, developing and creating digital content, working with colleagues across the Company to represent the breadth of WNO’s work, for use on our audience facing digital channels and across media and marketing campaigns to engage new and existing audiences and enhance our brand awareness.
What will be required of you?
* Plan and develop a wide range of high-quality in-house digital assets including gifs, images, photography and video to be utilised across WNO and venue channels and support marketing campaigns and communications.
* Works as a pro-active member of the marketing team to ensure that all targets and KPIs are reached, and campaigns are a success.
* Undertakes image and film editing of content as required.
* Assists with the management of film trailer and feature production, and communicates content briefs and feedback to agencies, sound producers and team members, ensuring deadlines are met.
* Oversees photography for all WNO content and comms, managing photoshoots with 3rd party suppliers, writing and communicating briefs with WNO internal and external stakeholders including directors and liaising with photographers. In collaboration with the wider marketing and communications team selects images for promotional use.
* Supports Digital Marketing Communications Officer to drive website traffic, social media engagement and ticket sales across our digital platforms representing the spectrum of WNO activity and departments.
* Works with Head of Marketing & Digital and Digital Marketing Communications Officer to ensure that the WNO website is maximising its SEO potential.
What you will need to have?
Skills, knowledge and experience:
* Demonstrable experience of planning and creating excellent digital content
* Experience of working editorially and with technical and digital design teams to communicate content
* Experience of attracting audiences to new content through social platforms
* Communication and people management skills
* Confidence in managing external suppliers and relationships
* Ability to guide and influence others
* Confidence in making sound editorial decisions
* Excellent project, budget and time management skills
* Excellent knowledge of project management techniques and methodology
* Editorial experience in content creation for young audiences and families
* Understanding of editorial guidelines for different ages and groups in terms of audiences
* Knowledge of relevant software (e.g. Adobe Premiere Pro, FCP etc)
* A team player who has a strong sense of their own individual responsibility and can work on their own initiative.
* Welsh language speaker/writer*
* Interest in the arts
* Understanding of GDPR legislation*
Health & Safety
The post carries responsibility for Health & Safety issues at level 6 (see attached).
*desirable
What we can offer you?
Competitive Salary
Annual Leave £27,300
Colleagues are entitled to 25 days annual leave (pro-rata for part time hours) each full holiday leave year which runs from 1st September to 31 August. Bank and public holidays are in addition to this. After 5 years, your holiday will increase to 28 days.
Pension All employees are automatically enrolled into WNO’s Stakeholder Pension Scheme (the “Plan”) or such other registered pension scheme as may be set up by the Company as a Qualifying Workplace Pension Scheme three months after joining the Company, subject to satisfying certain eligibility criteria.
Gym Membership
All employees are eligible to obtain the Active Corporate Card operated by Cardiff City Council which is available at a 25% reduced rate and covers various leisure facilities throughout Cardiff.
Discounts Wales Millennium Centre offers discounts to residents at selected outlets within the building and selected restaurants around Cardiff Bay on presentation of ID cards. Discounted rate with Future Inns in Cardiff.
Staff Parking Discount with Q Park
We have a corporate rate with Q Park, Pierhead Street (opposite WMC).
Employee Assistant Programme
We provide a free confidential; counselling and advice service that is available family to all our employees, freelancers and contractors.
Welsh lessons
We support staff who want to learn or improve their Welsh language skills, and we offer optional basic Welsh and improver lessons free of charge.
Medical Cashplan & My Salary Extras All colleagues are automatically signed up to a medical cash plan called BHSF, at Silver level paid for by WNO, where you can claim money back for routine and emergency healthcare on a range of healthcare including physiotherapy, dentistry, optical, osteopathy and more. You can also access a GP & Prescription service and mental health/counselling services.
‘My Salary Extras’ offer benefits and discounts on everyday spending, including, leisure days out, household purchases, motoring and travel.
If you are looking for the next challenge, then apply today. We welcome applications in Welsh. Any applications in Welsh will be treated no less favourably than if they were in English.
If you would like an informal chat about the role, please contact sian.morris@wno.org.uk
#J-18808-Ljbffr