Cofrestrydd - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Math o swydd wag: Parhaol/Llawn Amser
Categori: Curadurol
Ystod cyflog: Gradd F - £43,489.16 - £45,980.59
Oriau: 35 awr yr wythnos
Gofyniad lefel iaith Gymraeg: Dymunol
Crynodeb o'r Swydd
Rheoli’r gwaith o gyflawni rhaglenni benthyciadau Amgueddfa Cymru yn effeithiol (cael benthyg a rhoi benthyg), yn unol â pholisi a gweithdrefnau’r amgueddfa. Rheoli’r prosesau a’r logisteg sy’n rhan annatod o’r rhaglen fenthyciadau a sicrhau bod proffil cenedlaethol a rhyngwladol Amgueddfa Cymru yn cael ei wella drwy ymgysylltu’n weithredol â phartneriaid a darparu’r rhaglen yn effeithlon. Sicrhau diwydrwydd dyladwy wrth drin a symud gwrthrychau sydd o dan ofal Amgueddfa Cymru, gan sicrhau bod rhwymedigaethau cydymffurfio ac yswiriant yn cael eu bodloni.
Mae dyletswyddau rheoli casgliadau gweithredol yn rhan annatod o bob agwedd ar y rôl, gan weithio gyda system rheoli casgliadau Amgueddfa Cymru. Bydd gweithio’n agos gyda chydweithwyr curadurol, cadwraeth a thechnegol ar draws adrannau yn sicrhau bod cyfrifoldebau rheoli casgliadau yn cael eu cyflawni.
Registrar - National Museum Cardiff
Vacancy Type: Permanent/Full Time
Category: Curatorial
Salary Range: Grade F - £43,489.16 - £45,980.59
Hours: 35 hours per week
Welsh Language Level Requirement: Desirable
Job Summary
To manage the effective delivery of Amgueddfa Cymru’s loans programmes, inward and outward, in accordance with Museum policy and procedures. To manage the processes and logistics integral to the loans programme and to ensure that Amgueddfa Cymru’s national and international profile is enhanced through active engagement with partners and efficient delivery of the programme. To ensure due diligence in the treatment and movement of objects under the care of Amgueddfa Cymru, ensuring compliance and insurance obligations are met.
Active collections management duties are integral to all aspects of the role, working with Amgueddfa Cymru’s Collections Management System. Working closely with curatorial, conservation and technical colleagues across departments will ensure that collections management responsibilities are fulfilled.
#J-18808-Ljbffr