Are you a strategic thinker and data-driven leader with a passion for digital transformation? Digital Health and Care Wales (DHCW) is seeking an exceptional Head of Performance to shape and drive performance management across the organisation. About the Role As Head of Performance, you will lead DHCW’s performance management framework, ensuring the organisation meets its strategic objectives and delivers high-impact transformation programmes. You will be at the forefront of digital performance management, providing expert insights, guiding decision-making, and enhancing service delivery through robust data analytics. What You’ll Do Lead with impact – Inspire a team and a wider community of practice to champion performance excellence. Drive data-led decision-making – Oversee comprehensive performance analysis, ensuring the organisation meets its statutory reporting requirements. Develop and implement performance frameworks – Design and embed KPIs, Objectives and Key Results (OKRs), and quality assurance measures. Innovate and problem-solve – Address complex performance challenges, identifying key insights to enhance digital healthcare delivery. Collaborate and influence – Work closely with internal and external stakeholders, influencing policy to help shape NHS Wales' performance strategy. What We’re Looking For We’re seeking a leader with: Strong experience in performance analytics, business intelligence, or data strategy. A track record of leading high-performing teams and embedding data-driven culture. Expertise in KPI development, strategic planning, and reporting frameworks. Excellent stakeholder engagement and communication skills, with the ability to influence decision-making at all levels. A passion for digital transformation and healthcare innovation. Why Join Us? At DHCW, you’ll be part of a forward-thinking, dynamic organisation driving digital healthcare excellence across Wales. We offer: A hybrid working environment supporting work-life balance. Opportunities for professional growth in a national leadership role. Chance to shape the future of healthcare through data-driven innovation. Ready to make a lasting impact? Apply now and be a key player in transforming digital healthcare performance across NHS Wales. Closing Date: 20/03/25 Location: Hybrid Working (Wales-based office attendance minimum once a week) Ydych chi’n feddyliwr strategol ac yn arweinydd sy’n cael ei yrru gan ddata, gydag angerdd am drawsnewid digidol? Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn chwilio am Bennaeth Perfformiad eithriadol i lunio a llywio’r gwaith o reoli perfformiad ar draws y sefydliad. Am y Rôl Fel Pennaeth Perfformiad, byddwch yn arwain fframwaith rheoli perfformiad IGDC, gan sicrhau bod y sefydliad yn bodloni ei amcanion strategol ac yn darparu rhaglenni trawsnewid effaith uchel. Byddwch ar flaen y gad o ran rheoli perfformiad digidol, gan ddarparu mewnwelediadau arbenigol, arwain y broses o wneud penderfyniadau, a gwella darpariaeth gwasanaethau drwy ddadansoddi data cadarn. Beth Fyddwch Chi’n Ei Wneud Arwain gydag effaith – Ysbrydoli tîm a chymuned ymarfer ehangach i hyrwyddo rhagoriaeth perfformiad. Ysgogi penderfyniadau a arweinir gan ddata – Goruchwylio dadansoddi perfformiad cynhwysfawr, gan sicrhau bod y sefydliad yn bodloni ei ofynion adrodd statudol. Datblygu a gweithredu fframweithiau perfformiad – Dylunio a gwreiddio DPAau, Amcanion a Chanlyniadau Allweddol, a mesurau sicrhau ansawdd. Arloesi a datrys problemau – Mynd i’r afael â heriau perfformiad cymhleth, gan nodi mewnwelediadau allweddol i wella darpariaeth gofal iechyd digidol. Cydweithio a dylanwadu – Gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan ddylanwadu ar bolisi i helpu i lunio strategaeth perfformiad GIG Cymru. Yr hyn rydyn ni’n chwilio amdano Rydyn ni’n chwilio am arweinydd gyda: Profiad cryf mewn dadansoddeg perfformiad, deallusrwydd busnes neu strategaeth data. Hanes o arwain timau sy’n perfformio’n dda ac ymgorffori diwylliant a yrrir gan ddata. Arbenigedd mewn datblygu DPA, cynllunio strategol, a fframweithiau adrodd. Sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid rhagorol, gyda’r gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau ar bob lefel. Angerdd am drawsnewid digidol ac arloesi ym maes gofal iechyd. Pam Ymuno â Ni? Yn IGDC, byddwch yn rhan o sefydliad blaengar, deinamig sy’n gyrru rhagoriaeth ym maes gofal iechyd digidol ledled Cymru. Rydym yn cynnig: Amgylchedd gwaith hybrid sy’n cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Cyfleoedd ar gyfer twf proffesiynol mewn rôl arweinyddiaeth genedlaethol. Cyfle i lunio dyfodol gofal iechyd trwy arloesi a yrrir gan ddata. Ydych chi’n barod i gael effaith barhaol? Gwnewch gais nawr a chwaraewch ran allweddol wrth drawsnewid perfformiad gofal iechyd digidol ar draws GIG Cymru. Dyddiad Cau: 20/03/25 Lleoliad: Gweithio Hybrid (angen mynychu swyddfa yng Nghymru o leiaf unwaith yr wythnos)