Lleoliad gwaith: Coed Pella
Mae cyfle wedi codi i Brif Swyddog Cynllunio dros dro ymuno â’r tîm Rheoli Datblygu.
Bydd deiliad y swydd yn ymdrin â cheisiadau cynllunio sylweddol a chymhleth ac yn gweithredu fel rheolwr atebol ar gyfer tîm o Swyddogion Cynllunio. Mae prif ddyletswyddau’r swydd yn cynnwys:
• Prosesu ceisiadau cynllunio cymhleth ac amrywiol, gan gynnwys llunio adroddiadau i swyddogion achos a phwyllgorau.
• Gweithio i derfynau amser
• Darparu cyngor proffesiynol i’r cyhoedd, aelodau etholedig a datblygwyr drwy ein gwasanaeth cynghori cyn gwneud cais a’r llinell ffôn swyddog ar ddyletswydd dyddiol.
• Cyflwyno ceisiadau yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio
• Darparu arweiniad priodol i aelodau’r tîm i’w galluogi i ymgymryd â’u gwaith mewn modd proffesiynol ac effeithlon.
• Gallu monitro perfformiad o fewn y tîm.
Dylai ymgeiswyr feddu ar Radd neu gymhwyster cyfwerth ym maes Cynllunio Gwlad a Thref neu faes cysylltiedig, bod yn aelod o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru, meddu ar wybodaeth ymarferol drylwyr a phrofiad o brosesau rheoli datblygu a meddu ar o leiaf pum mlynedd o brofiad perthnasol ar lefel Uwch-swyddog
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Paula Jones, Rheolwr Datblygu a Rheoli Adeiladu (Paula.jones@conwy.gov.uk / 01492 576424)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn).
Work base: Coed Pella
An opportunity has arisen for a temporary Principal Planning Officer to join the Development Management team.
The post holder will be dealing with major and complex planning applications as well as line managing a team of Planning Officers. The main responsibilities of the post include:
• Processing complex and varied planning applications, including the preparation of case officer/committee reports.
• working to deadlines
• Providing professional pre-application advice to the public, members and developers via our pre-application advice service and daily duty officer phone line.
• Presenting applications at Planning Committee meetings
• To provide appropriate guidance to team members to enable them to be able to undertake their work in a professional and efficient manner.
• To be able to monitor performance within the team
Candidates should have a Degree or equivalent in Town and Planning or a related discipline, be a member of the RTPI and have comprehensive working knowledge and experience of development management processes and have at least 5 years relevant experience at Senior Officer level
This role offers flexible working options for a work life balance. This can include adjusting your working day and hybrid working, ie a balance of office and home working.
Manager details for informal discussion: Paula Jones, Development and Building Control Manager (Paula.jones@conwy.gov.uk / 01492 576424)
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other.
We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Conwy is committed to safeguarding. Qualifications and references will be verified.
We’re committed to developing a diverse workforce and inclusive teams that embrace a wide range of voices, experiences, perspectives and backgrounds. Creating a workplace that is welcoming and where everyone feels they belong ensures we can deliver great services.
We welcome and encourage applicants from all backgrounds and experiences.
We are a Disability Confident Employer. If you have declared a disability in your application, we guarantee an interview if you evidence that you meet the essential criteria of the job in your application (requirements marked with an ‘E’ on the Person Specification).
Proud member of the Disability Confident employer scheme
Disability Confident
About Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident .