Cydlynydd RNID Gerllaw Chi – De a Gorllewin Cymru
* Lleoliad: O bell yn, neu gerllaw; Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro neu Ceredigion
* Cyflog: £19,968 (£24,960 y flwyddyn, cyfwerth ag amser llawn)
* Math o gontract: 3 blynedd
* Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 3 Mawrth 2025
* Dyddiadau Cyfweliadau: 12 a 11 Mawrth 2025
Fel un o’r tri Chydlynydd ar gyfer ein gwasanaeth cymunedol RNID Gerllaw Chi yn Ne a Gorllewin Cymru, byddwch yn canolbwyntio ac yn arwain ar ddatblygu a darparu’r gwasanaeth cymunedol ar draws eich ardal ddynodedig trwy sesiynau galw heibio sy’n cynnig:
* cymorth ymarferol gyda chymhorthion clyw
* gwybodaeth am golled clyw a thinitw
* sarchwiliadau clyw
Byddwch yn gyfrifol am gydlynu hyd at 15 o sesiynau galw heibio ac yn gallu recriwtio, hyfforddi, a rheoli tîm o hyd at 25 o wirfoddolwyr i ddarparu’r gwasanaeth. Byddwch yn gyfrifol am drefnu a chynnal y sesiynau hyn, a bydd gennych wybodaeth leol dda am yr ardal a ddewiswyd i geisio cyfleoedd newydd i ddarparu gwasanaethau RNID Gerllaw Chi.
Rydym am benodi person llawn cymhelliant sydd â diddordeb mawr mewn cynorthwyo pobl â nam ar eu clyw. Tra byddwch yn gweithio gartref yn bennaf, bydd gofyn i chi deithio’n rheolaidd i bob lleoliad lle byddwn yn darparu sesiynau galw heibio mewn lleoliadau cymunedol.
Rydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ac wrth eich bodd yn rhyngweithio â chynulleidfaoedd amrywiol, gan gynnwys gwirfoddolwyr, gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, a defnyddwyr gwasanaethau. Mae gennych brofiad o reoli digwyddiadau, eich llwyth gwaith eich hun, a gallwch weithio gyda’r nos / ar benwythnosau, os oes angen. Rydych yn gallu cynorthwyo cleientiaid â chymhorthion clyw mewn modd sensitif, gan roi arweiniad clir ac ystyriaeth i ddymuniadau ac anghenion iechyd yr unigolyn.
Rydych yn barod i weithio i sefydliad sy’n gweithio gartref ac mae gennych sgiliau TG da, yn enwedig gyda rhaglenni Microsoft Office, gan gynnwys Outlook, Excel, a Word.
Beth allwn ni ei gynnig i chi
* Digidol yn Gyntaf, gweithio o bell yn gyfan gwbl, gyda chynadleddau wyneb yn wyneb i’r staff i gyd trwy gydol y flwyddyn
* Gweithio o bell yn gyfan gwbl, heb unrhyw oriau craidd
* £26 o lwfans gweithio o bell bob mis
* 28 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â’r gwyliau banc i gyd
* Yn ogystal â 2 ddiwrnod lles i roi mwy o hyblygrwydd
* Hawl i fudd-dal salwch o’r diwrnod cyntaf
* Cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 4%
* Yswiriant Bywyd – 2 x cyflog
* Rhaglen Cymorth i Weithwyr ac ap lles sy’n darparu sesiynau cwnsela
* Buddion ychwanegol ar gyfer mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu
* Mynediad at blatfform tocynnau digwyddiadau
Ein hymrwymiad i amrywiaeth
Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo ein staff, gan gynnwys gwneud addasiadau rhesymol. Os oes arnoch angen cymorth i ymgeisio, neu i gyflawni gofynion y rôl hon, rhowch wybod i ni fel y gallwn drafod yr opsiynau gyda chi.
Hyderus o ran Anabledd
Mae Hyderus o ran Anabledd yn gynllun gan y Llywodraeth, sydd wedi’i gynllunio i annog cyflogwyr i recriwtio a chadw pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd. Mae wedi disodli’r cynllun blaenorol Dau Dic: Cadarn o Blaid Pobl Anabl, y gallech fod wedi clywed amdano.
Mae RNID yn falch o fod yn aelod o Hyderus o ran Anabledd ac, fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, rydym yn cydnabod gwerth pobl anabl i RNID. Rydym yn cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sy’n dweud wrthym fod ganddo / ganddi anabledd, ac sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y rôl.
Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
#J-18808-Ljbffr