Dyddiad dechrau: 1af o Fedi, 2025
Yn sgil penodiad ein Pennaeth presennol i ysgol uwchradd o fewn yr ardal, mae Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Penparc yn awyddus i benodi olynydd ymroddedig ac ysbrydoledig ar gyfer yr ysgol gynradd gymunedol boblogaidd hon. Lleolir Ysgol Gymunedol Penparc ar gyrion tref Aberteifi yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol.
Mae’r ysgol yn darparu amgylchedd gofalgar, cynhwysol, llawn parch o’r radd flaenaf. Dymuna’r Llywodraethwyr benodi Pennaeth newydd i arwain yr ysgol yn y cyfnod nesaf o’i datblygiad. Mi fydd gan y Pennaeth ymrwymiad dysgu o tua 0.5.
Mae rhyw 109 o ddisgyblion yn yr ysgol ac mae tîm effeithiol o athrawon a staff cefnogi yn cynorthwyo pob disgybl i ddysgu a datblygu i’w llawn botensial. Mae’r Llywodraethwyr am benodi Pennaeth a all adeiladu ar y cryfderau presennol a bod yn agored i syniadau newydd a sicrhau bod yr ysgol yn paratoi ei disgyblion ar gyfer byd sy’n newid o’u cwmpas.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd pellach i ragori yn y dyfodol. Rydym am benodi unigolyn profiadol sy’n meddu ar nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth rhagorol ac a fydd yn:
* hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb tra’n hyrwyddo cymuned gefnogol a chynhwysol
* annog ac yn cefnogi disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol ac uchelgeisiol
* ysbrydoli ac yn hybu datblygiad staff o ran addysgu a dysgu arloesol
* annog ymrwymiad rhieni a’r gymuned o fewn yr ysgol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
* gweledigaeth glir o ran datblygiad yr ysgol hon sydd wedi ei hen sefydlu ac sy’n rhoi lle canolog i’r Gymraeg yn y gymuned
* y gallu i annog disgyblion i gofleidio’r diwylliant a’r iaith Gymraeg yn llawn ac i annog rhieni i gefnogi’r Gymraeg adref
* dealltwriaeth o arferion dysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i’w datblygu drwy’r ysgol yn y dyfodol
* medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu
* dealltwriaeth o bwysigrwydd datblygiad unigol pob disgybl er mwyn iddynt gyflawni ei lawn botensial
* gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol a gwir ddiddordeb yn y maes
* ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîm er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau posib i bob disgybl
* ymrwymiad cryf i gyfoethogi’r cysylltiadau gyda’r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion eraill a’r Urdd.
Rhaid i bob ymgeisydd feddu ar gymhwyster CPCP (Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth).
Cyfweliadau: Dydd Iau, y 10fed o Ebrill (gofynnir i ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael ar y diwrnod hwn) a gynhelir yn Ysgol Gymunedol Penparc.
Mae croeso i ymgeiswyr ymweld â’r ysgol, os ydynt yn dymuno, cyn cyflwyno cais. Am fanylion pellach, cysylltwch ag Ymgynghorydd Cefnogi yr ysgol, Mr Dafydd Iolo Davies ar dafydd.iolodavies@ceredigion.gov.uk / 07812920421.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
#J-18808-Ljbffr