About Food Sense Wales Food Sense Wales works to co-create a food system that benefits people and the planet. Established in 2018, it drives cross-sector action across Wales, influencing how food is produced and consumed. It champions sustainable food, farming, and fisheries, and leads on developing Cross-Sector Food Partnerships. Hosted by Cardiff and Vale UHB’s Public Health team, it is a fund within the Cardiff & Vale Health Charity and part of the Sustainable Food Places programme. Cardiff Sustainable Food Places Co-ordinator / Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy CaerdyddCardiff and some travel required also hybrid workingSalary: £37,898 - £45,637 per year depending on experience Job Overview We are looking for an enthusiastic, skilled and motivated individual to lead Food Cardiff, the sustainable food network for Wales’ capital city. This is an exciting time to join Food Cardiff as its ambitious strategy to build a strong good food network in the city means Cardiff has recently become only the fourth place in the UK to achieve the Gold Sustainable Food Places Award. Food Cardiff is a city-wide partnership of individuals and organisations which acts as a hub for connecting the people and projects working to promote healthy, environmentally sustainable and ethical food across the city. Food Cardiff is part of Food Sense Wales, which aims to influence how food is produced and consumed in Wales, ensuring that sustainable food, farming and fisheries are at the heart of a just, connected and prosperous food system. The Cardiff Sustainable Food Places Co-ordinator will be responsible for leading and developing the Food Cardiff Partnership, using their specialist knowledge to enhance and embed the Food Cardiff profile across the city and Wales. Main duties of job To lead and drive successful delivery of a Food Cardiff strategy including inspiring and enabling the active participation of and contributions from a wide range of local partners. To lead the effective functioning of Food Cardiff’s Partnership e.g. identifying and co-opting members; planning, organising and servicing meetings; setting up processes and procedures. To implement and lead local and national food sustainability policies in Cardiff that will impact on a number of public, private and third sector organisations. To organise and attend events to encourage networking and the sharing of specialist practice, at both a local and network level and to contribute to national events delivered by the Sustainable Food Places programme and Food Sense Wales, requiring regular travel across Cardiff and occasional travel across Wales and the UK. To work with external agencies to successfully deliver the city-wide food campaigns, communicating with the public, institutions and policy makers To identify and secure additional funds from a range of sources, to support delivery of the action plan and an ongoing sustainable food programme in the city To maintain Cardiff’s Gold Sustainable Food Places Award To work as a team member with Food Sense Wales, the Cardiff and Vale Public Health Team, and other Food Cardiff partners. Trosolwg o'r Swydd Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, medrus a llawn cymhelliant i arwain Bwyd Caerdydd, y rhwydwaith bwyd cynaliadwy ar gyfer prifddinas Cymru. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Bwyd Caerdydd gan fod ei strategaeth uchelgeisiol i greu rhwydwaith bwyd da cryf yn y ddinas yn golygu bod Caerdydd yn un o ddim ond pedwar lle yn y DU i ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn ddiweddar. Partneriaeth o unigolion a sefydliadau ar hyd a lled y ddinas yw Bwyd Caerdydd sy'n gweithredu fel hyb i gysylltu’r bobl a’r prosiectau sy’n gweithio i hyrwyddo bwyd iach sy'n amgylcheddol gynaliadwy a moesegol ledled y ddinas. Mae Bwyd Caerdydd yn rhan o Synnwyr Bwyd Cymru, sy'n anelu at ddylanwadu ar sut y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru, gan sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a llewyrchus. Bydd Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Caerdydd yn gyfrifol am arwain a datblygu Partneriaeth Bwyd Caerdydd, gan ddefnyddio ei wybodaeth arbenigol i wella proffil Bwyd Caerdydd a sicrhau ei fod yn bwrw gwreiddiau ar draws y ddinas a ledled Cymru. Prif ddyletswyddau'r swydd Arwain a hyrwyddo'r gwaith o gyflawni strategaeth Bwyd Caerdydd yn llwyddiannus gan gynnwys ysbrydoli a galluogi ystod eang o bartneriaid lleol i gymryd rhan a chyfrannu at hynny. Arwain y gwaith o weithredu Partneriaeth Bwyd Caerdydd yn effeithiol e.e. nodi a chyfethol aelodau; cynllunio, trefnu a hwyluso cyfarfodydd; sefydlu prosesau a gweithdrefnau. Gweithredu ac arwain polisïau cynaliadwyedd bwyd lleol a chenedlaethol yng Nghaerdydd a fydd yn effeithio ar nifer o sefydliadau cyhoeddus, preifat a sefydliadau'r trydydd sector. Trefnu a mynychu digwyddiadau i annog rhwydweithio a rhannu arferion arbenigol, ar lefel leol a lefel rhwydwaith, a chyfrannu at ddigwyddiadau cenedlaethol a gynhelir gan y rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a Synnwyr Bwyd Cymru, sy’n gofyn am deithio'n rheolaidd ar hyd a lled Caerdydd a theithio'n achlysurol ledled Cymru a’r DU. Gweithio gydag asiantaethau allanol i gyflawni ymgyrchoedd y ddinas yn llwyddiannus, gan gyfathrebu â’r cyhoedd, sefydliadau a llunwyr polisïau Nodi a sicrhau cyllid ychwanegol o amrywiaeth o ffynonellau, i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun gweithredu a rhaglen fwyd gynaliadwy barhaus yn y ddinas Cadw Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Caerdydd Gweithio fel aelod o dîm gyda Synnwyr Bwyd Cymru, Tîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a'r Fro, a phartneriaid eraill Bwyd Caerdydd. Working for Food Sense Wales Food Sense Wales: Co-creating a food system for Wales that’s good for people and the planet Founded in 2018, Food Sense Wales was established to drive forward a cross-sector approach to the food system in Wales. Food Sense Wales works with communities, organisations, policymakers and Government across Wales to create a food and farming system that is good for people and good for the planet. We aim to influence and impact on how food is produced and consumed in Wales, ensuring that sustainable food, farming and fisheries are at the heart of a just, connected and prosperous food system. Food Sense Wales also leads on the development of Cross-Sector Food Partnerships across Wales and sits on the Sustainable Food Places Programme Management Board. Food Sense Wales is a fund within the Cardiff & Vale Health Charity and is hosted by the Cardiff and Vale University Health Board Public Health team. Gweithio i'n sefydliad Synnwyr Bwyd Cymru: Cyd-greu system fwyd i Gymru sydd o les i bobl ac i'r blaned Wedi'i sefydlu yn 2018, nod Synnwyr Bwyd Cymru yw hyrwyddo dull traws-sector o ymdrin â’r system fwyd yng Nghymru. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gyda chymunedau, sefydliadau, llunwyr polisïau a Llywodraeth ledled Cymru i greu system bwyd a ffermio sydd o les i bobl ac i'r blaned. Ein nod yw dylanwadu ar sut y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru, gan sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a llewyrchus. Mae Synnwyr Bwyd Cymru hefyd yn arwain y gwaith o ddatblygu Partneriaethau Bwyd Traws-Sector ledled Cymru ac mae'n aelod o Fwrdd Rheoli'r Rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gronfa sy'n rhan o Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro ac mae'n cael ei letya gan dîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a'r Fro.