Based Bridgend with hybrid working The current salary for this role is £105,579 with a Pay Award on 1/4/25 pending. This will likely increase the salary to c.£108,000.
The Public Services Ombudsman for Wales ("PSOW") plays a critical role in improving public services and upholding standards of conduct within local government across Wales. PSOW investigates complaints involving Welsh public services, allegations of breaches
of the Code of Conduct by Welsh Councillors and undertakes reviews into wider systemic failures, providing recommendations for improvement.
A unique organisation, it covers the entirety of the devolved public sector in Wales and, as a result, plays a leading role in ensuring Welsh public service is as fair, transparent and effective as it can be.
Employing 80 people, PSOW enjoyed a record year in 2023/24, closing more cases than ever before and handling 10,000 cases. Despite being contacted by more people than ever, the Ombudsman has maintained the high quality of their work, with 93% of reviews
finding that the original decision was correct. All the while, maintaining internal staff satisfaction with 75% of staff agreeing that PSOW is a good place to work.
PSOW is now seeking an Executive Director, Corporate Resources who will report to the Ombudsman (as the Accounting Officer) and act as their Chief Financial Adviser. As one of two Executive Directors, the individual will play a crucial role leading the organisation
and providing strategic direction as well as ensuring that PSOW is a safe, well-run and inclusive workplace.
Looking outward, as leader of PSOW’s wider systemic improvement work, this role also presents an exciting opportunity for an ambitious professional to have an impact on the quality of Welsh public service and Welsh life. The organisation therefore seeks
a strategic thinker who can build and support high-performing teams and who is passionate about public service delivery and improvement.
An experienced Finance professional, or an individual who has led the Finance function as part of a wider portfolio, the individual will bring experience of working in a complex stakeholder environment and driving change in this environment. A public or
third sector professional, or a private sector professional with a public service ethos, this individual will enjoy a fantastic opportunity to help shape the PSOW of the future, leading on the development of its new strategic plan.
Cyfarwyddwr Gweithredol, Adnoddau Corfforaethol Wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda threfniant gweithio hybrid Y cyflog presennol ar gyfer y rôl hon yw £105,579 ac mae Dyfarniad Cyflog yn yr arfaeth ar 1/4/25. Mae’n debygol y bydd hyn yn cynyddu’r cyflog
i oddeutu £108,000.
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ("OGCC") yn cyflawni rôl allweddol wrth wella gwasanaethau cyhoeddus a chynnal safonau ymddygiad o fewn llywodraeth leol ledled Cymru. Mae OGCC yn ymchwilio i gwynion yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
a honiadau o dorri’r Cod Ymddygiad gan Gynghorwyr yng Nghymru, ac mae’n cynnal adolygiadau o fethiannau systemig ehangach, gan ddarparu argymhellion ar gyfer gwella. Mae’n sefydliad unigryw sy’n rhychwantu’r sector cyhoeddus datganoledig cyfan yng Nghymru,
ac felly’n chwarae rôl arweiniol wrth sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru mor deg, tryloyw ac effeithiol â phosibl.
Gan gyflogi 80 o bobl, cafodd OGCC flwyddyn lwyddiannus iawn yn 2023/24, gan gau mwy o achosion nag erioed o’r blaen a thrin 10,000 o achosion. Er bod mwy o bobl nag erioed yn cysylltu â’r Ombwdsmon, mae’r swyddfa wedi cynnal ansawdd uchel eu gwaith, gyda
93% o adolygiadau’n canfod bod y penderfyniad gwreiddiol yn gywir. A hyn oll ar yr un pryd â chynnal boddhad staff mewnol, gyda 75% o staff yn cytuno bod OGCC yn lle da i weithio.
Mae OGCC bellach yn chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol, Adnoddau Corfforaethol a fydd yn adrodd i’r Ombwdsmon (fel y Swyddog Cyfrifyddu) ac yn gweithredu fel ei Brif Gynghorydd Ariannol. Fel un o ddau Gyfarwyddwr Gweithredol, bydd yr unigolyn yn cyflawni
rôl allweddol o arwain y sefydliad a darparu cyfeiriad strategol yn ogystal â sicrhau bod OGCC yn weithle diogel a chynhwysol sy’n cael ei gynnal yn dda.
Wrth edrych tuag allan, fel arweinydd gwaith gwella systemig ehangach OGCC, mae’r rôl hon hefyd yn cynnig cyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol uchelgeisiol ddylanwadu ar ansawdd gwasanaethau cyhoeddus a bywyd yng Nghymru. Felly, mae’r sefydliad yn chwilio
am feddyliwr strategol sy’n gallu datblygu a chefnogi timau uchel eu perfformiad ac sy’n frwdfrydig ynglyn â darparu a gwella gwasanaethau cyhoeddus.
Efallai gweithiwr proffesiynol profiadol ym maes cyllid, neu unigolyn sydd wedi arwain y swyddogaeth gyllid yn rhan o bortffolio ehangach, bydd yr unigolyn yn cyfrannu profiad o weithio mewn amgylchedd rhanddeiliaid cymhleth a sbarduno newid yn yr amgylchedd
hwn. Bydd yr unigolyn hwn, sy’n weithiwr proffesiynol o’r sector cyhoeddus neu’r trydydd sector, neu’n weithiwr proffesiynol o’r sector preifat sydd ag ethos gwasanaeth cyhoeddus, yn mwynhau cyfle gwych i helpu i ffurfio OGCC y dyfodol, gan arwain ar ddatblygu
ei gynllun strategol newydd.