Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn Canol Dydd 01/05/2025
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn yr Adran Cyllid, Caffael ac Eiddo ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân, Parc Busnes Forest View, Llantrisant ar gyfer rôl Swyddog Caffael.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am weinyddu strategaeth gaffael Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a darparu cyngor a hyfforddiant caffael cadarn. Rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o reoli caffaeliad gwerth uchel, rheoli tîm a systemau cyfriflyfr ariannol integredig gan gynnwys P2P a rheoli stoc.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gall y rôl hon gynnwys teithio rhwng safleoedd ledled De Cymru. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio'n annibynnol, a bydd angen gwiriad trwydded yrru.
Yn gyfrifol am: Cydlynydd Caffael, Rheolwr Prynu a Chyflenwadau, Tîm P2P a Chynorthwyydd E-Gaffael, Adran Storfeydd, P2P a Chyllidebau Storfeydd
Bod yn gyfrifol am weinyddu strategaeth gaffael Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a darparu cyngor a hyfforddiant caffael cadarn. I gael rhagor o wybodaeth am ddyletswyddau a chyfrifoldebau ewch i'n gwefan recriwtio.
HANFODOL
- Aelodaeth Lefel 6 Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi neu gymhwyster cyfartal.
- Profiad o ymarferion caffael gwerth uchel a gweithgareddau ehangach, gan weithio ar eich menter eich hun ac fel rhan o dîm prosiect ehangach yn y Sector Cyhoeddus
- Gwybodaeth a dealltwriaeth sylweddol o reolau a gweithdrefnau caffael yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
- Profiad o systemau cyfriflyfr ariannol integredig.
- Profiad o reoli tîm.
- Profiad ymarferol o becynnau Microsoft Office h.y. Outlook, Word, Excel
- Y gallu i hyrwyddo a rheoli amrywiaeth a dangos agwedd deg a moesegol ym mhob sefyllfa.
- Y gallu i weithio mewn cydymffurfiaeth lawn â pholisi sefydliadol a chanllawiau deddfwriaethol, gan barchu gwybodaeth sensitif a gyflwynir*
- Y gallu i ddangos a hyrwyddo agwedd hyderus, dan reolaeth a ffocws yn gyson mewn sefyllfaoedd hynod heriol.
- Bod yn rhagweithiol wrth hyrwyddo newid, a'r gallu i chwilio am gyfleoedd i hyrwyddo gwell effeithiolrwydd sefydliadol.
- Y gallu i arwain, cynnwys ac ysgogi eraill yn fewnol yn y Gwasanaeth Tân ac Achub a phartneriaid allanol.*
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig ag ystod eang o gynulleidfaoedd*.
- Ymrwymiad a gallu datblygu eich hunan, unigolion a thimau er mwyn gwella effeithiolrwydd sefydliadol.
- Y gallu i ddeall a chymhwyso gwybodaeth berthnasol i wneud penderfyniadau priodol sy'n adlewyrchu blaenoriaethau a gofynion allweddol.
- Y gallu i greu a gweithredu cynlluniau effeithiol i gyflawni ystod o amcanion sefydliadol.
DYMUNOL
- Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Astudiaethau Busnes (neu gymhwyster cyfartal) or significant experience in a relevant role
Cytundeb: Parhaol
Gradd: 13
Cyflog:£41,511 - £42,708
Lleoliad: Llantrisant