Mae Menter Iaith Casnewydd wedi derbyn cyllid newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyllid hyn yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a chynyddu canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg o 10% (yn 2013–15) i 20% erbyn 2050.
O ganlyniad, mae Menter iaith Casnewydd eisiau penodi Swyddog Prosiectau a fydd yn ymwneud â marchnata ein gweithgareddau a chodi arian ar eu cyfer, wrth iddi gychwyn ar gyfnod newydd cyffrous i hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yng Nghasnewydd.
Canolbwynt y rôl yw creu a chyflawni Strategaeth Ymgysylltu Cymunedol Cynhwysol a Strategaeth Marchnata’r Fenter a fydd yn ennyn brwdfrydedd ac angerdd y gymuned, rhanddeiliaid a phartneriaid. Bydd hyn eu tro yn ein galluogi ni i ehangu ein darpariaeth, ein cyrhaeddiad a’n cynhwysiant ledled y ddinas drwy ymchwilio ffyrdd creadigol a dyfeisgar o gyflwyno a chynnal prosiectau a gweithgareddau newydd ac arloesol er mwyn hwyluso twf y Gymraeg fel iaith bob dydd yng nghymunedau Casnewydd.
Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau Cymraeg cryf a bydd yn cydweithio gyda'n Prif Swyddog ac Ymddiriedolwyr y Fenter i gynllunio a gweithredu dwy strategaeth: Strategaeth Ymgysylltu Cymunedol Cynhwysol i gyflawni amcanion Cymraeg 2050 yn yr ardal a Strategaeth Marchnata’r Fenter. Bydd y strategaeth marchnata hon yn llywio ymgysylltu â’r gymuned leol ac yn dylanwadu arni drwy rannu straeon ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gefnogi gwaith Menter Iaith Casnewydd i gyflawni amcanion Cymraeg 2050.
Byddai'r rôl hon yn addas ar gyfer rhywun sydd â sgiliau Cymraeg lefel uchaf, profiad o waith cymunedol, ac arwain a chyflwyno ceisiadau am grantiau, yn enwedig mewn elusen fach neu ganolig ei maint. Gall hefyd fod yn addas ar gyfer unigolyn sydd â chefndir yn y maes farchnata, yn ogystal â gwaith cymunedol.
Bydd profiad o weithio’n gymunedol a phrofiad o reoli prosiect hefyd yn fanteisiol, yn ogystal â phrofiad o wneud ceisiadau grant am gyllid yn y sector datblygu cymunedol.
Bydd angen i chi fod yn hyblyg, yn drefnus, yn gallu dysgu’n gyflym ac yn gallu gweithio yn effeithiol fel aelod o dîm.
Yn adrodd i: Prif Swyddog Menter Iaith Casnewydd
Yn gyfrifol am: Dim cyfrifoldebau rheoli llinell
Lleoliad: Gweithio’n hyblyg – bydd modd trafod cyfuniad o weithio o gartref a gweithio ar adegau yn y swyddfa yng Nghanol Casnewydd.
A. Ymgysylltu Cymunedol
I. Strategaeth Ymgysylltu Cymunedol
Creu strategaeth ymgysylltu cymunedol gynhwysol, i gefnogi amcanion Cymraeg 2050. Bydd y strategaeth yn cynnwys ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, rhannu straeon sy'n ennyn brwdfrydedd ac angerdd y gymuned, ymgysylltu â rhanddeiliaid a phartneriaid, a monitro a gwerthuso effaith y strategaeth.
II. Ymgyrchoedd y Cyfryngau Cymdeithasol
Rheoli ymgyrchoedd ymgysylltu cymunedol cyfryngau cymdeithasol Menter Iaith Casnewydd. Trwy greu cynnwys deniadol a pherthnasol, bydd ymgyrchoedd y cyfryngau cymdeithasol yn cyrraedd cynulleidfa ehangach, gan godi ymwybyddiaeth am y Gymraeg a gweithgareddau'r Fenter.
III. Rhannu Straeon sy'n Ennyn Brwdfrydedd ac Angerdd y Gymuned.
Cyfweliad ag aelodau'r gymuned a mynychu digwyddiadau lleol i gasglu hanesion, straeon a phrofiadau o lwyddiannau dysgu a defnyddio'r Gymraeg. Creu fideos a lluniau i gyflwyno'r straeon mewn ffordd weledol a deniadol. Ysgrifennu blogiau ac erthyglau sy'n adrodd straeon ysbrydoledig a llwyddiannau.
IV. Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Phartneriaid
Mapio, cysylltu a chwrdd â rhanddeiliaid i ddatblygu partneriaethau strategol i greu prosiectau cydweithredol sy'n hyrwyddo'r Gymraeg. Monitro a gwerthuso ymgyrchoedd ymgysylltu cymunedol i sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn cyflawni’n hamcanion. Casglu Data ymgysylltu’r cyfryngau cymdeithasol a dadansoddi’r Data i greu adroddiadau misol. Addasu’r ymgyrchoedd yn seiliedig ar yr adroddiadau misol i sicrhau llwyddiant y strategaeth.
Gan weithio gyda’r Prif Swyddog a’r Ymddiriedolwyr, ddatblygu a chyflwyno strategaeth codi arian er mwyn galluogi’r fenter i gynnal mwy o weithgareddau a chynnig gwasanaethau newydd a fydd yn arwain at gynyddu defnyddio’r Gymraeg yng Nghasnewydd.
Datblygu Strategaeth Marchnata sy’n llywio’r naratif lleol, gan ganolbwyntio ar straeon personol ac annog eraill i rannu eu straeon eu hunain i gynyddu’n ymgysylltiad.
II. Cyfrannu at Osod Cyllidebau Codi Arian
Cyfrannu at osod cyllidebau codi arian blynyddol, cynlluniau prosiect a chyllidebau prosiect.
III. Gweithredu’r Strategaeth Codi Arian
Nodi a gweithio gyda darparwyr grantiau / ffynonellau incwm cyfredol a dichonadwy. Ymchwilio i ffynonellau incwm newydd a fydd yn helpu i gyflawni ein strategaeth, er mwyn amrywio ein hincwm. Sefydlu prosesau ar gyfer hawlio grantiau. Datblygu a chynnal ffynhonnell gref o roddwyr a chyllidwyr, gan ddefnyddio sgiliau, ymchwil, dadansoddi a chynllunio. Datblygu a chynnal perthnasoedd cryf â chyrff cyllido. Cynhyrchu ceisiadau ysgrifenedig am arian o ansawdd uchel a gwneud cyflwyniadau llafar fel y bo'n briodol i sicrhau grantiau mawr a bach. Cynrychioli'r elusen gyda rhoddwyr a darpar roddwyr pan fo'r achlysur yn ôl y galw. Monitro effeithiolrwydd y gweithgareddau codi arian amrywiol gan weithio gydag unrhyw gydweithwyr sy'n rhan o gyflwyno'r prosiectau. Defnyddio meincnodau’r strategaeth codi arian i fesur perfformiad y gweithgareddau codi arian presennol. Addasu’r strategaeth codi arian yn unol â chanlyniadau a newidiadau yng nghyd-destun ariannol/ cymdeithasol ac ati'r Fenter.
IV. Gweithredu Trefniadau Llywodraethu a Rheolaethau Ariannol Effeithiol
Sicrhau bod trefniadau codi arian yn cael eu llywodraethu’n dda, gan gynghori’r Prif Swyddog a’r ymddiriedolwyr yn ôl yr angen. Tracio, meithrin a rheoli cysylltiadau â darpar roddwyr, gan gynnwys llunio systemau a phrosesau datblygu cynigion ac adrodd clir a gweithredu diwydrwydd dyladwy. Cyflawni dyletswyddau gweinyddol codi arian sy'n cynnwys cadw cofnodion o'r holl weithgareddau a gohebiaeth. Sicrhau bod Rhodd Cymorth yn cael ei hawlio lle bo'n briodol. Cydymffurfio â Chod Ymarfer y Sefydliad Codi Arian a chyfraith codi arian elusennau.
V. Cynnal Cysylltiadau Da â Chydweithwyr
Gweithio gyda staff eraill yr elusen i sicrhau bod gweithgareddau a chyfathrebu’r elusen yn cefnogi ymdrechion codi arian. Gweithio gyda chydweithwyr i nodi prosiectau newydd posibl ar gyfer Menter Iaith Casnewydd sy’n cyd-fynd â strategaeth yr elusen.
VI. Sicrhau bod Gofynion Cyllidwyr yn cael eu Bodloni
Gweithio gyda'r Prif Swyddog i sicrhau bod ymrwymiadau cyhoeddusrwydd ac unrhyw ofynion eraill y cyllidwyr yn cael eu bodloni. Paratoi adroddiadau ac adborth priodol i gyrff cyllido yn unol â'r amserlen adrodd. Gweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog i sicrhau bod yr holl incwm a godir yn cael ei gyfyngu'n briodol mewn cyllidebau a’i adlewyrchu mewn cyfrifon a bod gwariant yn cael ei ddyrannu'n gywir. Darparu adroddiadau misol ar weithgarwch ac incwm i'r Prif Swyddog er mwyn adrodd arnynt i'r Ymddiriedolwyr. Sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ym maes arferion codi arian.
I. Cyfrannu at Ddatblygu Strategaeth Marchnata’r Fenter
Ar y cyd â’r Prif Swyddog, swyddogion eraill y Fenter ac Ymddiriedolwyr, llunio strategaeth a fydd yn llywio gweithgareddau marchnata’r Fenter yn ôl blaenoriaethau dethol.
II. Gweithredu Strategaeth Marchnata’r Fenter
Arwain ymgyrchoedd a phrosiectau marchnata. Ehangu a gwella ein hymgysylltu ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol. Cyfannu ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu’r Fenter i hyrwyddo proffil yr elusen a’r Gymraeg yn effeithiol ac yn gyson. Darparu amrywiaeth o adnoddau marchnata a hyrwyddo gweithgareddau a digwyddiadau, gan gynnwys deunydd wedi’i argraffu, deunydd digidol a fideos.
D. Cyfrifoldebau sy’n Gyffredin i’r Ddwy Rôl
Cynnal, ategu a hyrwyddo gwerthoedd y Fenter. Mynychu cyfarfodydd staff a chyfarfodydd eraill. Cefnogi amcanion ehangach yr elusen a chyfrannu atynt. Bod ag ymrwymiad cryf i amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant. Bod yn barod i weithio rhai penwythnosau. Bod yn barod i aros oddi cartref o bryd i'w gilydd at ddibenion gwaith. Sicrhau bod unrhyw wybodaeth a chofnodion yn cael eu cadw yn unol â GDPR. Cydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, Cyfle Cyfartal a Chynhwysiant. Ymgymryd â hyfforddiant i ddatblygu sgiliau sy'n berthnasol i'r rôl. Rheoli llwyth gwaith ac ymateb i flaenoriaethau cystadleuol a therfynau amser ariannu. Bod yn gynrychiolydd y sefydliad mewn sefyllfaoedd allanol. Cyflawni dyletswyddau eraill yn ôl yr angen i ddiwallu anghenion y sefydliad.
#J-18808-Ljbffr