Social network you want to login/join with:
Assistant Headteacher – Inclusion, ALNCo and Safeguarding – Ysgol Bro Pedr, Lampeter
Client: Ceredigion County Council
Location: Lampeter, United Kingdom
Job Category: Other
EU work permit required: Yes
Job Reference: b4c5c9b87577
Job Views: 16
Posted: 14.03.2025
Expiry Date: 28.04.2025
Job Description:
About the role
The following is an advert for a position where ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Erbyn 8fed o Ebrill, mae Corff Llywodraethol Ysgol Bro Pedr am benodi Pennaeth Cynorthwyol eiddgar sydd â’r weledigaeth a’r gallu i arwain, ysbrydoli ac ysgogi cymuned gyfan. Mae Ysgol Bro Pedr yn falch o gynnig y cyfle cyffrous hwn i Gydlynydd ADY neu arbenigwr ADY profiadol i ymuno â’n tîm arwain fel Pennaeth Cynorthwyol Cynhwysiant, CADY a Diogelu. Rydym yn chwilio am arweinydd rhagorol gyda hanes profedig o lwyddiant mewn ADY. Bydd gan y sawl a benoedd yr angerdd, egni a’r brwdfrydedd i gefnogi’r Pennaeth a’r tîm arwain wrth arwain yr ysgol. Pwrpas craidd y rôl fydd darparu arweiniad strategol a chyfeiriad o ran cynhwysiant, ADY a diogelu o fewn yr ysgol.
Mae Ysgol Bro Pedr yn ysgol flaengar a chyffrous. Gwahoddir ceisiadau gan addysgwyr profiadol, sy’n frwdfrydig ac ysbrydoledig, i adeiladu ar y dreftadaeth gref hon. Rydym yn falch iawn ein bod yn:
1. ysgol hapus a gwâr yng nghalon ein cymuned
2. dathlu cynnydd a llwyddiannau pawb yn ddi-wahân
3. gofalu am ein gilydd ac am eraill
4. anelu am y gorau bob tro
5. cynnig addysg a phrofiadau o’r radd flaenaf
Dewch i ymuno â thîm cefnogol, brwdfrydig a blaengar yn yr ysgol 3-19 hon. Bydd y sawl a benoedd yn cynorthwyo yn y broses o arwain a rheoli’r ysgol ac yn meddu ar nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth rhagorol fydd yn:
1. hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb
2. dylanwadu ar gydweithwyr trwy osod esiampl fel model rôl ysbrydoledig sydd yn drefnus a chydwybodol
3. cysylltu â staff, disgyblion a rhieni i annog ethos gwaith effeithiol
Pecyn Gwybodaeth
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
#J-18808-Ljbffr