GWEITHIWR AML GREFFT / MULTI SKILLED OPERATIVE Diolch am eich diddordeb yn y swydd Gweithiwr Aml Grefft hefo Canllaw Addasu (Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn) Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Mae ' Canllaw' y n is-gwmni i Grwp Cynefin sy’n rheoli asiantaeth Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn. Nod Canllaw yw “galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau”. Rydym yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, gan ddarparu gwasanaethau tai mewn ymateb i anghenion pobl hŷn neu bobl fregus lleol. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys: 'Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn' – Gwasanaeth rhad ac am ddim i bobl 60 oed a drosodd i’w cynghori a chefnogi i gynnal, gwella neu addasu eu cartrefi. Yn benodol yn y sector breifat, ac wedi ei ariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru. Canllaw Addasu - Gwasanaeth masnachol o gynnal addasiadau priodol yng nghartrefi pobl hŷn neu bobl fregus, er mwyn iddynt gynnal eu hannibyniaeth. Canllaw Technegol - Gwasanaeth proffesiynol o ddylunio, cynllunio, archwilio a goruchwylio gwaith adeiladu, boed gwaith mawr neu fach. Yn gwasanaethu cleientiaid sy’n bobl hŷn neu bobl fregus. Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i unigolion sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes tai mewn awyrgylch Gymreig lle mae’r amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar i’r teulu. Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch a Elfyn Owen, Prif Swyddog ar 01286 889360 Mwy o wybodaeth - E wch ar ein gwefan : www.grwpcynefin.org Y Swydd: Math o gytundeb: Parhaol Cyflog Spot: £31,729 y flwyddyn Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) Disgrifiad Swydd: DS Gweithiwr Aml Grefft 09.24.pdf JD Multi-Skilled Operative 09.24.pdf Buddiannau: GC Buddion 2024 Cymraeg-compressed.pdf Benefits Package.pdf Canllawiau sut i ymgeisio Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon. Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.