ARBENIGWR AD
Lleoliad gwaith yn Llanelwy/ Gweithio ystwyth
1 Parhaol ac 1 Cytundeb Tymor Byr am 12 mis,
37 awr yr wythnos
Gradd GTAGC 08 £37,938 i £40,476 y flwyddyn
(Lwfans ychwanegol o 8.5% ar gyfer gwaith tu allan i oriau arferol - dewisol)
Mae gennym gyfle cyffrous i Arbenigwr Adnoddau Dynol brwdfrydig ymuno â'n tîm.
Gan adrodd i'r Pennaeth Adnoddau Dynol a gweithio fel aelod gwerthfawr o'r tîm, byddwch yn darparu cefnogaeth Adnoddau Dynol cynhwysfawr, effeithlon ac effeithiol i reolwyr a gweithwyr. I ddechrau, bydd hyn yn cael ei ddarparu ar draws ystod eang o weithgareddau AD cyffredinol, gan gynnwys rheoli presenoldeb, disgyblu, cwynion, cyfryngu, perfformiad a rheoli newid yn ogystal â chymryd rhan mewn recriwtio ac adnoddau a mentrau a phrosiectau sy'n gysylltiedig ag AD ar ffurf cylchdro.
Yn ddelfrydol, byddwch yn gymwysedig gan CIPD neu'n gweithio tuag at gymhwyster Lefel 7 a bydd gennych brofiad o weithio mewn amgylchedd AD prysur. Rydym yn chwilio am gyfathrebwr cryf ac effeithiol gyda sgiliau rhyngbersonol da, gyda'r gallu i weithio ar draws pob lefel. Mae hyblygrwydd yn hollbwysig wrth gefnogi gwasanaeth brys rheng flaen 24 awr, felly mae'r rôl yn amrywiol ac mae'r gallu i weithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser yn hanfodol.
Bydd y rôl yn cael ei lleoli yn bennaf yn ein pencadlys yn Llanelwy, gyda theithio i leoliadau Gwasanaeth eraill yn ôl yr angen. Mae gweithio ystwyth ar gael o gyfuniad o leoliadau cartref a gwasanaeth a bydd yn cael ei drafod yn ystod y cyfweliad.
Mae'r rôl yn llawn amser, yn cael ei gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus yr opsiwn i weithio'n hyblyg, i batrwm gwaith ansafonol a fydd yn cyfrannu tuag at yr wythnos 37 awr a fydd yn cynnwys tair noson y mis ar gyfartaledd a bydd hyn yn denu lwfans ychwanegol o 8.5%.
Sylwch fod lleiafswm o sgiliau lefel 2 y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon; Os na ddangosir hyn ar ôl cael ei benodi, darperir cefnogaeth i gyflawni hyn yn ystod y cyfnod prawf. Mae'r rôl hon hefyd yn amodol ar wiriad DBS safonol a geirda boddhaol.
Am fwy o fanylion am y rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth. I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12.00 hanner dydd, 20 Ionawr 2025.
Cedwir at y dyddiad cau yn llym ac ni fydd unrhyw eithriadau'n berthnasol.