About Us:
Conwy Mind is a dedicated mental health charity committed to providing life-changing support to individuals facing mental health challenges. We are passionate about raising awareness, breaking down stigma, and making mental health care accessible to all in our community.
To support and expand our work, we’re establishing an exciting new Income Generation Team dedicated to increasing our income, developing innovative fundraising ideas, and engaging our community in meaningful ways.
About the Roles:
As we build on the fundraising success, we've achieved over the past two years with events such as Mental Elf and Seal splash, we're excited to establish a new Income Generation Team to take our efforts to the next level. We are seeking an inspiring Income Generation Lead and two enthusiastic Fundraisers who bring fresh ideas, energy, and a passion for our cause. This team will be pivotal in driving our fundraising initiatives forward, generating new income streams, and creating engaging events and campaigns to expand our reach and impact. Working across Conwy, Gwynedd and Ynys Mon we have big plans. The work will also involve supporting and developing joint opportunities with our neighbouring local minds in North Wales.
Fundraising and Community Engagement Officer x 2 to cover Conwy, Gwynedd and Ynys Mon (1 x Welsh Essential)
Salary Grade/ Rate: £28,000
Location: Unit 5325, North Wales Business Park, Abergele, Conwy, LL22 9HR Hours: 35hrs to be worked flexibly
Annual Leave: 35 days pro rata (including bank holidays)
Responsible to: CEO Contract: Permanent
Role Overview:
This role will deliver a range of fundraising activities, creating a great supporter experience for our participants ensuring our supporters are at the heart of everything we do.
You will project manage fundraising activity and volunteer journeys from beginning to end, delivering them on time and in line with annual plans and budget. You will analyse and produce evaluation reports reporting against budget, interpreting these results to inform the future planning of fundraising activities.
You will possess strong verbal communication skills and the ability to effectively communicate with our supporters across a range of channels including mail, e-mail, telephone, face-to-face, and online.
Key Responsibilities:
* Fundraising plan in accordance with the Fundraising strategy.
* Expand our team of volunteers and establish Local Fundraising Groups to raise funds in their community.
* Maintain a robust monitoring and recording system to capture achievements and activities, identifying trends for future planning.
* Hold regular meetings with volunteer groups to reward and thank them, deliver any training and promote a team ethos.
* Support current supporters to continue with their fundraising for us, attending their events.
* Increase the number of organisations, groups and individuals who can hold fundraising events by visiting and giving presentations.
* Promote awareness of Conwy Mind and the services we provide.
* Implement Legacy and In Memoriam donations programme by holding events across the Region
* Develop corporate relationships building Charity of the Year opportunities.
Skills:
* Excellent communication skills using all methods of contact including face to face, email, phone and online
* Strong range of IT skills including Microsoft packages, online research and social media platforms to promote events and success stories
* Good aptitude for collating information using spreadsheets Ability to recruit, manage and support a team of volunteers Innovative approach to fundraising and associated events Motivated to achieve stretching objectives
* Flexible team player.
* Exceptional presentation skills using a range of styles to engage with all aspects of the role.
Experience:
* Significant experience of the Voluntary sector and volunteering Experience of working with, ideally, managing volunteers Demonstrable experience of Fundraising
* Able to evidence a range of presentation styles relevant to the audience
Qualifications:
* A levels, or equivalent qualifications
* Any relevant Fundraising qualifications
* 1 Welsh Essential, 1 Welsh Desirable
Additional Requirements:
* Adhere to all Conwy Mind’s policies with particular reference to confidentiality, cash handling, data protection and health and safety.
* To comply with the data protection regulations, ensuring all information on volunteers and supporters remains confidential.
* To be responsible for personal learning and development, to support the learning and development of others and the whole organisation.
* Keep abreast of new charity sector developments such as new events and fundraising ideas. Attend all mandatory staff training and ensuring you are up to date.
* To work in a manner that facilitates inclusion.
* To administer and organise own work to ensure that it is accurate and meets reporting requirements.
Person Specification
The specific skills, knowledge and abilities required of an individual to be able to effectively perform the role.
Essential:
* Experience if managing community activities and a proven track record of meeting and exceeding targets across a wide range of channels and products.
* Experience and proven track record of managing volunteers to undertake fundraising activities.
* A strong project manager with experience of devising and managing marketing and stewardship strategies to achieve targets.
* Experience if using an innovation process to identify and implement new activities or improve existing ones.
* Experience of using appropriate IT suite and level of programs associated with the role including databases, digital platforms, and financial systems.
* Excellent knowledge and understanding of Fundraising legislation, principles and practices and regulation requirements across community events.
* Exceptional presentation skills using a range of styles to engage with all aspects of the role. Excellent project management skills, including managing multiple projects simultaneously.
* Ability to plan, priorities and organise workload to achieve set deadlines.
* Strong interpersonal skills to build authentic and effective relationships with supporters and local organisations.
* Excellent communication skills, including the ability to deal with people at all levels on the telephone, face-to-face and in written communication.
* A strong influencer who is able to encourage participants to exceed fundraising targets.
* A resourceful team member who can work collaboratively across the organisation and with internal and external stakeholders to deliver excellent fundraising activities.
* Ability to interpret and analyse data both during and after a campaign to help inform future strategies.
* Value diversity and treat others with respect, showing sensitivity towards differences, promoting and encouraging diversity.
* Willingness and ability to travel throughout North Wales and to work evenings and weekends.
Desirable:
* Passion for Conwy Mind’s values and work
* Direct or indirect experience of mental health problems Relevant Fundraising Qualification
* A levels, or equivalent qualification
Closing date for Applications:
5pm, 13th December 2024
Interview Dates:
15th & 16th January 2025 – Interviews will be carried out face-to-face at Unit 5325, North Wales Business Park, Abergele, Conwy, LL22 8LJ
Scope of job description
This job description reflects the immediate requirements and responsibilities of the post. It is not an exhaustive list of the duties but gives a general indication of work undertaken which may vary in detail in the light of changing demands and priorities. Substantial changes will be carried out in consultation with the post holder.
Our Application Process
We embrace diversity and understand that being an inclusive organisation, recognising different perspectives, will enable us to provide excellent services. We are committed to ensuring all our employees are treated fairly and equitably at work and promoting equality in physical and mental health for all.
Book a phone conversation with us before you apply, and we will talk you through the role, how your skills and experience might fit our job description and person specification and talk you through how to complete the application form.
Once you have submitted your application form, we will compare your application to what we are
looking for with our person specification, and if they’re a good fit we’ll contact you for an interview.
AMDANOM NI:
Mae Mind Conwy yn elusen benodedig ar gyfer iechyd meddwl. Mae wedi ymroi i ddarparu cymorth trawsnewidiol i unigolion sy’n wynebu heriau iechyd meddwl. Rydym ni’n angerddol dros godi ymwybyddiaeth, cael gwared â stigma, a sicrhau bod gofal iechyd meddwl yn hygyrch i bawb yn ein cymuned.
Er mwyn cefnogi ac ehangu ar y gwaith yr ydym ni eisoes yn ei wneud, rydym ni’n sefydlu Tîm Cynhyrchu Incwm newydd i gynyddu incwm, datblygu syniadau arloesol i godi arian, ac ymgysylltu â’r gymuned mewn ffyrdd ystyrlon.
Y Swyddi:
Wrth i ni adeiladu ar y llwyddiannau yr ydym ni wedi eu cael dros y ddwy flynedd ddiwethaf yng nghyd-destun codi arian, megis Mental Elf a Seal splash, rydym ni’n gyffrous iawn ein bod ni’n sefydlu tîm Cynhyrchu Incwm newydd er mwyn gwneud ein hymdrechion codi arian yn fwy llwyddiannus byth. Rydym ni’n chwilio am Arweinydd Cynhyrchu Incwm sydd â'r gallu i ysbrydoli, yn ogystal â dau Swyddog Codi Arian a fydd yn dod â syniadau newydd, egni a brwdfrydedd i'r mudiad. Bydd y tîm hwn yn gwneud gwaith allweddol wrth ddatblygu ein cynlluniau codi arian, creu ffrydiau incwm ychwanegol, a chynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd ymgysylltu er mwyn cyrraedd mwy o bobl a chael mwy o effaith. Rydym ni’n gweithio ym mhob rhan o Gonwy, Gwynedd ac Ynys Môn, ac mae gennym ni gynlluniau mawr. Bydd y gwaith hwn yn golygu cefnogi a datblygu cyfleoedd ar y cyd â changhennau Mind lleol yng Ngogledd Cymru.
Swyddog Codi Arian ac Ymrwymiad Cymunedol x 2, i gwmpasu Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn (1 x Cymraeg yn Hanfodol)
Graddfa Cyflog: £28,000
Oriau: 35 i'w gweithio'n hyblyg
Gwyliau Blynyddol: 35 diwrnod pro rata (gan gynnwys gwyliau banc)
Yn atebol i: Prif Swyddog Gweithredol
Diben y swydd:
Bydd y swydd hon yn golygu cyflawni amrywiaeth o weithgareddau codi arian, gan greu profiad gwych i’n cefnogwyr, gan sicrhau bod ein cefnogwyr wrth galon popeth a wnawn.
Byddwch yn rheoli gweithgareddau codi arian a theithiau gwirfoddolwyr o’r dechrau i’r diwedd, gan eu cyflawni’n brydlon ac yn unol â’r gyllideb a’r cynlluniau blynyddol. Byddwch yn dadansoddi ac yn cynhyrchu adroddiadau gwerthuso yn erbyn y gyllideb, gan ddehongli’r canlyniadau hyn fel sail ar gyfer cynllunio gweithgareddau codi arian yn y dyfodol.
Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar cryf a’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol â’n cefnogwyr ar draws amrywiaeth o sianeli gan gynnwys post, e-bost, ffôn, wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Prif Gyfrifoldebau:
* Y cynllun codi arian yn unol â’r strategaeth Codi Arian.
* Ehangu ein tîm o wirfoddolwyr a sefydlu Grwpiau Codi Arian Lleol i godi arian yn eu cymuned.
* Cynnal system fonitro a chofnodi gadarn i gofnodi cyflawniadau a gweithgareddau, gan nodi tueddiadau ar gyfer cynllunio yn y dyfodol.
* Cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda grwpiau gwirfoddol i’w gwobrwyo ac i ddiolch iddyn nhw, a darparu hyfforddiant a hyrwyddo ethos tîm.
* Cynorthwyo cefnogwyr cyfredol i barhau i godi arian ar ein rhan, gan fynychu eu digwyddiadau.
* Cynyddu nifer y mudiadau, grwpiau ac unigolion sy’n gallu cynnal digwyddiadau codarian drwy ymweld â nhw a rhoi cyflwyniadau.
* Hyrwyddo ymwybyddiaeth o Mind Conwy a’r gwasanaethau a ddarparwn.
* Rhoi rhaglen rhoddion Etifeddiaeth ac Er Cof ar waith drwy gynnal digwyddiadau ar draws y Rhanbarth
* Datblygu cysylltiadau corfforaethol gan adeiladu cyfleoedd Elusen y Flwyddyn.
Sgiliau:
* Sgiliau cyfathrebu rhagorol gan ddefnyddio pob dull o gysylltu, gan gynnwys wyneb yn wyneb, ar e-bost, dros y ffôn ac ar-lein
* Ystod gref o sgiliau TG gan gynnwys pecynnau Microsoft, gwneud ymchwil ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo digwyddiadau a straeon am lwyddiant
* Gallu da i gasglu gwybodaeth gan ddefnyddio taenlenni
* Gallu recriwtio, rheoli a chefnogi tîm o wirfoddolwyr
* Agwedd arloesol at godi arian a digwyddiadau cysylltiedig
* Yn llawn cymhelliant i gyflawni amcanion ymestynnol
* Aelod hyblyg o dîm
* Sgiliau cyflwyno rhagorol gan ddefnyddio amrywiaeth o arddulliau i ymgysylltu â phob agwedd ar y rôl
Profiad:
* Profiad sylweddol yn y sector gwirfoddol ac o wirfoddoli
* Profiad o weithio gyda, ac yn ddelfrydol, rheoli gwirfoddolwyr
* Profiad amlwg o godi arian
* Gallu dangos tystiolaeth o amrywiaeth o arddulliau cyflwyno sy’n berthnasol i’r Gynulleidfa
Cymwysterau:
* Lefel A, neu gymwysterau cyfatebol
* Unrhyw gymwysterau Codi Arian perthnasol
* 1 Cymraeg yn Hanfodol, 1 Cymraeg Dymunol
Gofynion ychwanegol:
* Glynu wrth holl bolisïau Mind Conwy gan gyfeirio’n benodol at gyfrinachedd, trin arian parod, diogelu data ac iechyd a diogelwch.
* Cydymffurfio â’r rheoliadau diogelu data, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth am wirfoddolwyr a chefnogwyr yn aros yn gyfrinachol.
* Bod yn gyfrifol am ddysgu a datblygu personol, cefnogi dysgu a datblygiad pobl eraill a’r sefydliad cyfan.
* Bod yn gyfarwydd â datblygiadau newydd yn y sector elusennau megis digwyddiadau newydd a syniadau codi arian.
* Mynychu pob hyfforddiant gorfodol i staff a sicrhau eich bod yn gyfredol â nhw.
* Gweithio mewn ffordd sy’n hwyluso cynhwysiant.
* Gweinyddu a threfnu eich gwaith eich hun i sicrhau ei fod yn gywir ac yn bodloni gofynion adrodd.
Manyleb y
Person Hanfodol
* Profiad o reoli gweithgareddau cymunedol a hanes llwyddiannus o gyflawni a rhagori ar dargedau ar draws ystod eang o sianeli a chynnyrch.
* Profiad a hanes llwyddiannus o reoli gwirfoddolwyr i ymgymryd â gweithgareddau codi arian.
* Rheolwr prosiect cryf gyda phrofiad o ddyfeisio a rheoli strategaethau marchnata a stiwardiaeth i gyflawni targedau.
* Profiad o ddefnyddio proses arloesi i nodi a gweithredu gweithgareddau newydd neu wella rhai sydd eisoes yn bodoli.
* Profiad o ddefnyddio rhaglenni TG priodol a lefel y rhaglenni sy’n gysylltiedig â’r rôl, gan gynnwys cronfeydd data, llwyfannau digidol a systemau ariannol.
* Gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o ddeddfwriaeth, egwyddorion ac arferion Codi Arian a gofynion rheoleiddio ar draws digwyddiadau cymunedol.
* Sgiliau cyflwyno rhagorol gan ddefnyddio amrywiaeth o arddulliau i ymgysylltu â phob agwedd ar y rôl.
* Sgiliau rheoli prosiect rhagorol, gan gynnwys rheoli nifer o brosiectau ar yr un pryd.
* Gallu cynllunio, blaenoriaethu a threfnu llwythi gwaith er mwyn cwrdd â therfynau amser.
* Sgiliau rhyngbersonol cadarn i feithrin perthnasoedd dilys ac effeithiol gyda chefnogwyr a sefydliadau lleol.
* Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan gynnwys y gallu i ddelio â phobl ar bob lefel dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac ar bapur.
* Dylanwadwr cryf sy’n gallu annog cyfranogwyr i ragori ar y targedau codi arian.
* Aelod dyfeisgar o’r tîm sy’n gallu cydweithio ar draws y sefydliad a gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i ddarparu gweithgareddau codi arian rhagorol.
* Gallu dehongli a dadansoddi data yn ystod ac ar ôl ymgyrch er mwyn helpu i lywio strategaethau yn y dyfodol.
* Gwerthfawrogi amrywiaeth a thrin eraill â pharch, gan ddangos sensitifrwydd tuag at wahaniaethau, hyrwyddo ac annog amrywiaeth.
* Parodrwydd a’r gallu i deithio ar draws Gogledd Cymru a gweithio fin nos ac ar benwythnosau.
Dymunol
* Lefel A, neu gymhwyster cyfatebol
* Cymhwyster Codi Arian perthnasol
* Profiad uniongyrchol neu anuniongyrchol o broblemau iechyd meddwl
* Brwdfrydedd dros werthoedd a gwaith Mind Conwy
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw:
5pm, 13 Rhagfyr 2024
Dyddiad y Cyfweliadau:
15 a 16 Ionawr 2025 – Cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb yn Uned 5325, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ
Y Broses Gwneud Cais
Rydyn ni eisiau gwneud ein rolau mor hygyrch ag y gallwn i’r ystod ehangaf bosibl o ymgeiswyr, felly mae’r sgyrsiau hyn yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau, i weld a yw eich sgiliau a’ch profiad yn addas, ac i gael gwybod mwy am y broses gwneud cais.
Trefnwch sgwrs dros y ffôn gyda ni cyn i chi wneud cais, a byddwn yn trafod y swydd gyda chi, a sut mae eich sgiliau a’ch profiad yn cyd-fynd â’r disgrifiad swydd a manyleb y person, a gallwn drafod sut mae llenwi’r ffurflen gais.
Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen gais, byddwn yn cymharu eich cais â’r hyn rydyn ni’n chwilio amdano gan ddefnyddio’r manyleb person. Os byddwch yn addas, byddwn yn cysylltu â chi am gyfweliad.