Rydyn ni’n chwilio am weinyddwr profiadol a fyddai’n hoffi gweithio mewn amgylchedd Adnoddau Dynol. Mae hon yn rôl mewn amgylchedd cyflym. Byddwch yn gweithio i gyflogwr i fod yn falch ohono ac yn gwasanaethu eich cymuned leol. Dyma gyfle gwych i chi i ymuno â'r Uned Adnoddau Dynol a Chefnogi Busnes o fewn Pencadlys ein Gwasanaeth yn Llanelwy.
Byddwch yn gyfrifol am weinyddu pob agwedd ar waith yr adran Anoddau Dynol gan gynnwys recriwtio a rheoli presenoldeb. Bydd eich dylets wyddau'n cynnwys bod yn bwynt cyswllt cyntaf i ymholiadau Anoddau Dynol, gan ddarparu cyngor a chanllawiau a sicrhau cyfrinachedd. Fel sefydliad dwyieithog, bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â sgiliau Cymraeg Lefel 2. Bydd gofyn i chi ddelio â materion sensitif a chymhleth yn ogystal â chynnal system ffeilio electronig a phapur. Mae pob diwrnod yn wahanol!
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, byddwch yn weinyddwr medrus sy’n dda am roi sylw i fanylion. Bydd yn rhaid i chi feddu ar sgiliau trefnu rhagorol i reoli eich llwyth gwaith a chadw at derfynau amser. Bydd angen i chi fod yn hyblyg ac yn barod i addasu i newid er mwyn delio â cheisiadau wrth iddyn nhw godi. Bydd angen i chi allu gweithio'n annibynnol ac o’ch pen a’ch pastwn eich hun.
Sylwch fod y swydd hon yn amodol ar wiriad DBS a geirda boddhaol. Sylwch fod y swydd hon yn amodol ar wiriad DBS a geirda boddhaol. Os derbynnir datgeliad cadarnhaol (wedi'i wario neu heb ei wario), bydd dull sy'n seiliedig ar risg o reoli'r wybodaeth yn cael ei fabwysiadu gan y Gwasanaeth ac yna gwneir penderfyniad rhesymol a chymesur ynghylch y gweithiwr presennol neu ddarpar gyflogai.