Am Y Gwasanaeth Mae Derbyn ac Asesu yn dîm cyffrous sy’n newid yn gyflym, oherwydd demograffeg Caerdydd mae’r gwaith yn amrywiol a chynyddol. Mae ymarferwyr yn cynnal asesiadau lles ac A47 ac yn cynnig ymyraethau tymor byr i gefnogi teuluoedd i gynyddu diogelwch yn y cartref. Mae ymarferwyr yn cadw achosion am gyfnod byr; mae gwaith tymor hir fel arfer yn cael ei drosglwyddo yn y cyfarfod cynllunio cyntaf. Mae’r Tîm ar rota dyletswydd am un o bob tair wythnos, sy’n golygu eich bod yn cael y cyfle i gynllunio a chofnodi eich gwaith mewn ffordd strwythuredig a threfnus. Mae’r swyddi yn rhai parhaol ac wedi’u lleoli yn y Tîm Ymateb Cychwynnol, yn Derbyn ac Asesu. Gallai Gweithwyr Cymdeithasol fod yn rhan o achosion gofal a chyfraith preifat. Mae Timau Derbyn ac Asesu Caerdydd yn cynnwys staff profiadol sy'n cefnogi ei gilydd yn ystod cyfnodau heriol. Mae Caerdydd yn gweithio’n greadigol dan fodel Arwyddion Diogelwch am y canlyniadau gorau posibl i deuluoedd. Mae Cyngor Caerdydd yn gwerthfawrogi personél asiantaeth; mae cyfleoedd hyfforddi ar gael i bawb i sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus. Manteision a gynigir Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gyda'r opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod. Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun oriau hyblyg yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi. Gweithio hybrid – eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref. Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg, dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl. Dyma ychydig o'r hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, edrychwch ar ein gwefan Gwaith Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein holl fanteision a chlywed gan rhai o'n gweithwyr cymdeithasol, sy’n canu clod Caerdydd. Beth Rydym Ei Eisiau Gennych Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o asesu, cynllunio gofal, cynllunio â ffocws ar y person a sgiliau rheoli gofal, gan weithio gyda’r holl bartneriaid i nodi ac ateb anghenion cymorth gofal unigolion. Bydd angen i chi fod yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig, meddu ar sgiliau asesu ardderchog a gallu ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno. Byddwch yn weithiwr tîm da ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, yn ogystal â sgiliau TG da. Gwybodaeth Ychwanegol O 1 Ebrill 2024, mae’r rôl yn denu tâl atodol y farchnad o £5,000 (cyfwerth â llawn amser). (£44,513 - £48,693) Caiff y tâl ei adolygu bob 12 mis. Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau gan y Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Canllawiau Gwneud Cais Gwneud cais am swydd â ni Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol Siarter y Gweithwyr Recriwtio Cyn-droseddwyr Nodyn Preifatrwydd