Equal Opportunities At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of. Who we are At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing. We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs. Role responsibilities The Senior Landscape Architect will be responsible for designing and delivering a range of landscape design and active travel infrastructure projects, working as part of a national multi-disciplinary team, in order to enhance the daily experience of the public realm for people choosing to walk, wheel, and cycle on everyday trips in Wales. Creating and developing imaginative, landscape design proposals by drafting concept and detailed designs that are responsive to the local landscape character and context with reference to relevant design guidance, legislation and frameworks to enable and inspire people to travel actively and sustainably Develop and refine design proposals by engaging with local communities and collaborating with partners, and stakeholders to address diverse needs and aspirations whilst also meeting scheme objectives Contribute to the development and refinement of policies and design guidance including planning policies and the Active Travel Act Guidance by gathering, sharing and applying best practice from projects across the TfW team and local authority partners to improve the quality, cost and experience of using active travel infrastructure in Wales. Promote and advocate for high quality landscape design by providing advice and guidance both internally and externally to create environments that inspire people to travel actively and sustainably Who we’re looking for Degree or post-graduate Diploma in Landscape Architecture/Design or associated discipline or equivalent experience. Experience of working within a multi-disciplinary team to deliver landscape/urban design projects in the public realm. Experience of using design software including digital graphics / drawing packages such as Adobe Creative Cloud and AutoCAD. Excellent communication and presentation skills suitable for technical and non-technical audiences. Welsh Language Skills The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role. Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses. Next steps Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details. Transport for Wales is a disability leader. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful. This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible. Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications. Note that you must hold the permanent right to work in the UK. We are not currently able to provide sponsorship. Cyfle Cyfartal Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono. Pwy ydyn ni Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb. Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw. Cyfrifoldebau’r swydd Bydd yr Uwch Bensaer Tirwedd yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni amrywiaeth o brosiectau dylunio tirwedd a seilwaith teithio llesol, gan weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol cenedlaethol, er mwyn gwella profiad dyddiol pobl sy’n dewis cerdded, olwynio a beicio ar deithiau bob dydd yng Nghymru. Creu a datblygu cynigion dylunio tirwedd llawn dychymyg drwy ddrafftio dyluniadau cysyniad a dyluniadau manwl sy’n ymateb i gymeriad a chyd-destun y dirwedd leol gan gyfeirio at ganllawiau dylunio, deddfwriaeth a fframweithiau perthnasol i alluogi ac ysbrydoli pobl i deithio’n llesol ac yn gynaliadwy Datblygu a mireinio cynigion dylunio drwy ymgysylltu â chymunedau lleol a chydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid i fynd i’r afael ag anghenion a dyheadau amrywiol ar yr un pryd â chyflawni amcanion y cynllun Cyfrannu at ddatblygu a mireinio polisïau a chanllawiau dylunio gan gynnwys polisïau cynllunio a Chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol drwy gasglu, rhannu a defnyddio arferion gorau o brosiectau ar draws tîm TrC a phartneriaid awdurdodau lleol i wella ansawdd, cost a’r profiad o ddefnyddio seilwaith teithio llesol yng Nghymru. Hyrwyddo ac eiriol dros ddylunio tirwedd o ansawdd uchel drwy ddarparu cyngor ac arweiniad yn fewnol ac yn allanol i greu amgylcheddau sy’n ysbrydoli pobl i deithio’n llesol ac yn gynaliadwy Am bwy rydyn ni’n chwilio Creu a datblygu cynigion dylunio tirwedd llawn dychymyg drwy ddrafftio dyluniadau cysyniad a dyluniadau manwl sy’n ymateb i gymeriad a chyd-destun y dirwedd leol gan gyfeirio at ganllawiau dylunio, deddfwriaeth a fframweithiau perthnasol i alluogi ac ysbrydoli pobl i deithio’n llesol ac yn gynaliadwy Datblygu a mireinio cynigion dylunio drwy ymgysylltu â chymunedau lleol a chydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid i fynd i’r afael ag anghenion a dyheadau amrywiol ar yr un pryd â chyflawni amcanion y cynllun Cyfrannu at ddatblygu a mireinio polisïau a chanllawiau dylunio gan gynnwys polisïau cynllunio a Chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol drwy gasglu, rhannu a defnyddio arferion gorau o brosiectau ar draws tîm TrC a phartneriaid awdurdodau lleol i wella ansawdd, cost a’r profiad o ddefnyddio seilwaith teithio llesol yng Nghymru. Hyrwyddo ac eiriol dros ddylunio tirwedd o ansawdd uchel drwy ddarparu cyngor ac arweiniad yn fewnol ac yn allanol i greu amgylcheddau sy’n ysbrydoli pobl i deithio’n llesol ac yn gynaliadwy Sgiliau Iaith Gymraeg Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol Y camau nesaf A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion. Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus. Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl. Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.