Equal Opportunities At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of. Who we are At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing. We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs. Role responsibilities The Data Analyst will undertake tasks pertinent to rail infrastructure asset management activities and will provide an efficient and effective technical and analytical support service (data handling, analysis, administration, and reporting) to the team and support / collaborate with external partners. Analyse and present data to support the asset data manager, by reviewing multiple data sets to identify correlations and trends that will inform a business case to ensure Transport for Wales’ (TfW) can make informed decisions. Provide technical support for asset management activities by using the asset management system, legacy and current data sets to provide information to the Engineering teams to make informed decisions. Provide support to other directorates by collaborating with multiple teams and delivering insight and evidence to ensure a shared analytical provision within TfW. Conduct upkeep and review of asset data and records by constantly reviewing the various systems/data sets/SharePoint to ensure TfW has the most up to data information available to support its decisions. Who we’re looking for Previous experience of analysis that makes use of multiple data sources to provide discoveries and insights into trends and other patterns. Advanced user of Office 365, Teams ,Microsoft Excel and SharePoint. Experience of interpreting and effectively communicating information and data to colleagues and stakeholders. Experience of thinking creatively, solving problems and working flexibly while managing competing priorities in ahigh profile, challenging and fast-moving organisation. Welsh Language Skills The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role. Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses. Next steps Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details. Transport for Wales is a disability leader. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful. This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible. Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications. Note that you must hold the permanent right to work in the UK. We are not currently able to provide sponsorship. Cyfle Cyfartal Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono. Pwy ydyn ni Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb. Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw. Cyfrifoldebau’r swydd Bydd y Dadansoddwr Data yn ymgymryd â thasgau sy’n berthnasol i weithgareddau rheoli asedau seilwaith rheilffyrdd a bydd yn darparu gwasanaeth cynnal technegol a dadansoddol effeithiol ac effeithlon (trin, dadansoddi, gweinyddu ac adrodd data) i’r tîm ac yn cynorthwyo / cydweithio gyda phartneriaid allanol. Dadansoddi a chyflwyno data i gefnogi’r rheolwr data asedau, drwy adolygu nifer o setiau data i ganfod cydberthnasau a thueddiadau a fydd yn sail i achos busnes i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Darparu cymorth technegol ar gyfer gweithgareddau rheoli asedau trwy ddefnyddio’r system rheoli asedau, yr hen setiau data a’r setiau data cyfredol i ddarparu gwybodaeth i’r timau Peirianneg fel sail i’w penderfyniadau. Rhoi cymorth i gyfarwyddiaethau eraill drwy gydweithio â thimau niferus a darparu gwybodaeth a thystiolaeth i sicrhau darpariaeth ddadansoddol ar y cyd yn TrC. Cynnal a chadw ac adolygu data a chofnodion asedau trwy adolygu’r amrywiol systemau/setiau data/SharePoint yn gyson i sicrhau bod TrC yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddata sydd ar gael i gefnogi ei benderfyniadau. Am bwy rydyn ni’n chwilio Profiad blaenorol o ddadansoddi data gan ddefnyddio nifer o ffynonellau data i ddarparu darganfyddiadau a gwybodaeth am dueddiadau a phatrymau eraill. Defnyddiwr lefel uwch Office 365, Teams, Microsoft Excel a SharePoint. Profiad o ddehongli gwybodaeth a data a’u cyfleu’n effeithiol i gyd-weithwyr a rhanddeiliaid. Profiad o feddwl yn greadigol, datrys problemau a gweithio’n hyblyg wrth reoli blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd mewn sefydliad heriol ac uchel ei broffil sy’n datblygu’n gyflym. Sgiliau Iaith Gymraeg Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol. Y camau nesaf A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion. Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus. Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl. Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.