Job Description
Goruwchwyliwr Dosbarth Cyfrwng Cymraeg – Ysgolion Uwchradd
Disgrifiad Swydd
Mae New Directions Addysg yn chwilio am Oruwchyliwr Dosbarth i weithio mewn ysgolion uwchradd yn ardal XXXXXX. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Bydd elfen o reoli ymddygiad a disgyblu yn rhan o’r swydd felly byddai’r ymgeisydd delfrydol yn meddu ar sgiliau rhyngberthnasol gwych ac ar sgiliau rheoli hefyd. Gall New Directions gynnig hyfforddiant ar-lein ‘Goruchwylio Dosbarth’ a ‘Rheolaeth Dosbarth’ i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Byddwch yn gyfrifol am:
1. Ymgymryd â goruchwyliaeth dosbarth cyfan yn ystod absenoldeb athro dosbarth
2. Adrodd nôl am unrhyw anawsterau i’r athro dosbarth
3. Gosod gwaith cartref a osodwyd gan yr athro dosbarth
4. Cynorthwyo athrawon dosbarth â chynorthwyo gyda gwaith gweinyddol yn ôl y gofyn.
Mae’r rôl yma’n berffaith i rywun sydd yn chwilio i ddatblygu ei ph/brofiad ymhellach ym myd addysg h.y. cynorthwy-ydd dysgu neu ddarpar athro heb gymhwyster TAR. Byddwn hefyd yn ystyried ymgeisydd sydd â phrofiad o weithio â phobl ifanc neu hyfforddi chwaraeon ieuenctid.
Gwybodaeth Ychwanegol
5. Mae disgwyl i chi fod yn unigolyn cyfrifol iawn ond fe fydd athro gerllaw ar bob adeg.
6. Goruwchwilio a marcio profion dosbarth.
7. Arolygu gwaith cynorthwyydd dosbarth.
8. Arsylwi ar ddisgyblion a chyfrannu at gofnodion y disgyblion.
9. Marcio elfennau o waith dosbarth a gwaith cartref o dan oruchwyliaeth athro dosbarth.
Beth allwch ddisgwyl gan New Directions Addysg?
10. Rheolwr Cyfrif personol
11. Gwaith cyflenwi cyson ac amrywiol
12. Graddfa dal gystadleuol
13. Y posibilrwydd o waith hir-dymor
14. Swyddfeydd dros y DU
15. Enw da ym myd addysg a’r diwydiant recriwtio
Cysylltwch â New Directions Addysg am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r swydd hon ar 029 2039 0133 opsiwn 4
This role is for a Welsh speaking Cover Supervisor where the ability to speak Welsh is essential.
New Directions Education Ltd is acting as an Employment Business in relation to this vacancy.