Am Y Gwasanaeth Mae Caerdydd yn ceisio adeiladu ar lwyddiant recriwtio gweithwyr cymdeithasol drwy sicrhau bod gennym y prif weithwyr cymdeithasol gorau i hyfforddi a chefnogi ein gweithwyr, gan eu galluogi i dyfu a datblygu. Wrth fynd ar drywydd hyn, rydym wedi cynyddu nifer y prif weithwyr cymdeithasol ac yn ceisio recriwtio gweithwyr parhaol gydag angerdd a chymhelliant er mwyn darparu dim ond y gwasanaeth 'gorau oll' i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae’r ddihareb ‘ mae’n cymryd pentref i fagu plentyn ’ yr un mor berthnasol i ddinas fawr fel Caerdydd ag y mae yn unrhyw le - yr her yw nodi, ymgysylltu a chydweithio â’n cymunedau i gyflawni hyn. Mae model ardal Caerdydd yn caniatáu i weithwyr cymdeithasol a staff cymorth weithio yn y cymunedau lleol a dod i adnabod anghenion penodol y cymunedau rydym yn eu cefnogi. Gan weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau statudol ac anstatudol eraill a'r 3ydd sector, rydym yn darparu'r lefel gywir o gymorth i'n teuluoedd ar yr adeg gywir, gan rymuso teuluoedd i estyn allan at y rhwydweithiau cymorth hyn er mwyn lleihau anghenion hirdymor unigolion a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Mae Caerdydd fel prifddinas Cymru yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio mewn dinas fywiog a llwyddiannus ond mae hefyd yn cynnig mynediad hawdd i arfordir a chefn gwlad gwych rhanbarth De Cymru sydd â statws byd-eang. P'un a ydych yn dewis byw yn y ddinas neu o fewn pellter cymudo, mae gennych ddigon o ddewis mewn llety, gyda llwybrau trafnidiaeth ardderchog. I'r ymarferwyr hynny sy'n ceisio ehangu eu profiad o weithio gyda Phlant a'u teuluoedd, mae gan Gaerdydd gymaint i'w gynnig, drwy gyfleoedd cyffrous i ddatblygu gwybodaeth ymarfer mewn meysydd sydd ond ar gael yn y brifddinas, gan weithio gyda phlant a theuluoedd o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau. Mae Caerdydd yn sefydliad blaengar sy'n edrych ar ffyrdd o weithio o bell ac arloesol gyda hyblygrwydd i weithio gartref, yn y swyddfa a chefnogi cyswllt diogel wyneb yn wyneb â theuluoedd a phlant. Mae gwasanaethau Plant Caerdydd yn arweinwyr o ran ymarfer ac fe'u dewiswyd fel lleoliad ar gyfer prosiectau peilot allweddol gan gynnwys Llysoedd Cyffuriau ac Alcohol Teuluol. Rydym yn flaengar ac yn ceisio croesawu modelau gweithio newydd er mwyn sicrhau llwyddiant wrth gefnogi plant a phobl ifanc sy'n profi argyfwng iechyd meddwl a phlant sy'n ymwneud â chamfanteisio troseddol. Mae ein ffyrdd newydd o weithio wedi ein harwain at ddatblygu timau amlddisgyblaethol. Mae Caerdydd yn cefnogi dysgu a datblygu unigolion drwy gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth wrth gynnwys staff yn y gwaith o archwilio ac adolygu dysgu rhagweithiol sy'n galluogi datblygiad parhaus y gwasanaeth ac unigolion o fewn diwylliant meithringar a chefnogol. Mae ffocws allweddol ar symud cydbwysedd gofal gan sicrhau mai dim ond y plant hynny na ellir lliniaru risgiau ar eu rhan sy'n cael eu rhoi y tu allan i'w rhwydwaith teuluol. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy ddadansoddi'r materion cyflwyno yn glir a cheisio teilwra cymorth i ddiwallu anghenion teulu a allai gynnwys cymorth dyddiol yn y cartref a/neu ddefnyddio seibiant. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i weithio gyda theuluoedd drwy ymyrraeth statudol a rhannu cyfrifoldeb rhiant dim ond pan fo'r risgiau'n mynnu hynny ac nid o ganlyniad i fynediad at adnoddau/gwasanaethau. Am Y Swydd Mae timau Diogelu a Phlant Caerdydd bellach wedi'u lleoli mewn 3 ardal ar draws y ddinas, yn Llaneirwg yn y Dwyrain, y Tyllgoed yn y Gogledd a Bae Caerdydd yn y De gan alluogi staff i fod wedi'u lleoli yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. O fewn ardal ddaearyddol y tîm, byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc trwy gynnal asesiadau cadarn, cynllunio sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau ac ymyriadau effeithiol i'w cefnogi wrth gyflawni deilliannau cadarnhaol o fewn eu teuluoedd a'u cymunedau. Gan weithio o fewn dull ymarfer adferol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a chydweithwyr amlasiantaethol wrth ymyrryd i fynd i'r afael â'r pryderon sy'n codi a’r anawsterau sy’n sail iddynt. Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae’r tîm yn gweithio yn ôl dull sy’n seiliedig ar gryfderau (Arwyddion Diogelwch) er mwyn bodloni anghenion pobl ifanc a’u teuluoedd. Fel y Prif Weithiwr Cymdeithasol cewch gyfle i ddatblygu arferion eraill o fewn y tîm drwy gydweithio a goruchwylio tra hefyd yn arwain drwy esiampl fel deiliad achos ar gyfer y plant hynny ag anghenion mwy cymhleth sydd angen arbenigedd ymarferydd profiadol a medrus. Beth Rydym Ei Eisiau Gennych Bydd gennych fynediad uniongyrchol i uwch reolwr fel mentor, os oes angen. Byddwch yn rhan allweddol o Dîm Rheoli’r Ardal: gan lunio ei arfer a'i ddatblygiad ochr yn ochr â PWCau eraill, Rheolwyr Tîm a'ch Rheolwr Gweithredol. O fewn y tîm byddwch yn cymryd rôl Arweinydd Ymarfer, gan weithio gyda'r Rheolwr Tîm, cefnogi ac annog y diwylliant o fewn y gwasanaethau yn ogystal ag arwain, addysgu a modelu'r dull Arwyddion Diogelwch. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Tîm i helpu i reoli perfformiad a datblygiad Gweithwyr Cymdeithasol yn ogystal â chyfrannu at ddatblygu a chynnal systemau effeithiol i sicrhau gwasanaethau o safon i blant mewn angen a'u teuluoedd. Rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod â phrofiad diogelu cadarn a phrofiad o weithio gyda Phlant sy'n Derbyn Gofal a bod yn hyderus gydag achosion llys. Fel gweithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, rhaid i chi fod yn hyblyg a gallu gweithio dan bwysau. Oherwydd natur y rôl, mae'n rhaid bod gan ymgeiswyr brofiad ôl-gymhwyso rheng flaen mewn gwasanaethau amddiffyn plant. Mae gradd mewn Gwaith Cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â sgiliau asesu rhagorol a’r gallu i ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno. Byddwch yn weithiwr tîm da ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, yn ogystal â sgiliau TG. Gwybodaeth Ychwanegol Yn weithredol o 1 Ebrill 2024, bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). (£48,693 - £51,731) Adolygir y taliad hwn bob 12 mis. Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol. Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu. Yn rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Laura.white3caerdydd.gov.uk am drafodaeth. Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais: Canllaw ar Wneud Cais Ymgeisio am swyddi gyda ni Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol Gwybodaeth Ychwanegol:- Siarter Cyflogeion Recriwtio Cyn-Droseddwyr Hysbysiad Preifatrwydd Job Reference: PEO03979