Swyddog Cyfathrebu Marchnata (Arweinydd Ymgyrchoedd) Amdanom ni: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am gynnig addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe, dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr mawr yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff. Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff ac rydym yn gofalu am eu lles er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a hefyd gartref Y Rôl: Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu Marchnata (Arweinydd Ymgyrchoedd) i ymuno a’n tîm marchnata bywiog. Bydd y rôl yn ffocysu ar gynllunio, cydlynu a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata ledled y Coleg er mwyn gwella gwelededd brand y Coleg, hybu ymgysylltiad a chynyddu nifer y ceisiadau a dderbynnir. Bydd angen i chi feddu ar feddylfryd creadigol a dadansoddol, sgiliau cyfathrebu rhagorol ac ymagwedd gydweithredol i hwyluso nodau strategol y Coleg. Amser Llawn (37 awr yr wythnos) Parhaol £31,861 - £34,019 y flwyddyn Campws Hill House, Abertawe Yr hyn rydym yn chwilio amdano: Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol arloesol a brwdfrydig sy'n ffynnu mewn amgylchedd cydweithredol ac sydd ag angerdd am greu ymgyrchoedd marchnata effeithiol. Bydd gennych: Arbenigedd mewn ymgyrchu: Profiad o gynllunio a gweithredu ymgyrchoedd marchnata digidol ac all-lein a phwyslais ar gyflawni canlyniadau mesuradwy. Sgiliau marchnata digidol Sgiliau digidol da iawn mewn trefnu cyfryngau cymdeithasol, marchnata dros ebost, ymgyrchoedd PPC a chreu cynnwys digidol apelgar. Dawn creadigol: Arbenigedd mewn datblygu cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd penodol sy’n dal y llygad. Cydweithio a chyfathrebu: Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i feithrin perthnasoedd â thimau ac adrannau, gan gyfleu syniadau ar gyfer ymgyrchoedd yn effeithiol. Os ydych chi’n gyffrous i lywio trywydd marchnata’r Coleg yn y dyfodol a chynnig ymgyrchoedd sy’n cael effaith gadarnhaol ar eraill, cysylltwch â ni Buddion: 28 diwrnod o wyliau blynyddol, gwyliau banc a phythefnos o wyliau dros gyfod y Nadolig pan fydd y Coleg ar gau. Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniad cyflogwr cyfartalog o 21% (2023). 2 ddiwrnod lles staff. Cyfleoedd addysgu â disgownt ar raglenni’r Coleg. Darllenwch ragor o’r manteision yma: https://www.gcs.ac.uk/recruitment/staff-benefits-wellbeing Angen help i gwblhau eich cais? Cliciwh yma i ddarllen ein canllawiau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad ar hyn o bryd. Os hoffech chi barhau i gwblhau’ch cais yn Gymraeg, ewch i’n gwefan Gymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu ein gweithlu dwyieithog. Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc a disgwylir i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Gwneir penodiadau yn amodol ar wiriad DBS a bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru. Rydym yn disgwyl derbyn llawer iawn o geisiadau ar gyfer y rôl hon. Os felly, efallai bydd angen i ni newid y dyddiad cau i ddyddiad cynharach, felly, rydym yn argymell i chi gyflwyno cais yn gynnar. Gwneir penodiadau fel arfer i waelod y raddfa gyflog, gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad dechrau cyn 1 Chwefror).