Gweinyddiaeth a Threfniadaeth Lefel 3
Job description
I ddechrau: Medi 2025
Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau cymdeithasol a chroesawgar er mwyn iddynt fod yn un o’r cysylltiadau cyntaf gydag ymwelwyr, disgyblion a rhieni. Byddai profiad blaenorol o weithio o fewn ysgol / gweinyddiaeth llywodraeth leol yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.
Bydd angen datblygu gwybodaeth ymarferol gadarn o’r rhaglen SIMS.net (System Rheoli Gwybodaeth Ysgol) a modiwlau cysylltiedig arall. Byddai’n fantais pe bae gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth flaenorol o’r rhaglenni Word, Excel a systemau eraill a ddefnyddir yn y swyddfa / ysgol ond fe ddarparir hyfforddiant llawn i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfarwydd a gweithio o dan bwysau mewn amgylchedd swyddfa brysur a chael y gallu i weithio fel aelod o dîm. Bydd angen nodweddion personol o egni, brwdfrydedd ar yr ymgeisydd llwyddiannus yn ogystal â’r gallu i gyfathrebu’n glir, gywir ac yn fanwl ar bob lefel.
Mae safon uchel o sgiliau rhyngbersonol, cynllunio a threfniadol yn hanfodol i’r swydd.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.
Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Os hoffech drafod y swydd ymhellach cysylltwch â Phennaeth yr ysgol Mr Martin Evans – 01792 862136.
Application forms submitted in either Welsh or English will be accepted.
Dyddiad cau: 12 hanner dydd, 28ain o Ebrill 2025
#J-18808-Ljbffr