Learning Support Worker (Level 3) - Ysgol Gymraeg y Ffin
The ability to speak Welsh is essential for this vacancy. Please see the Welsh Job description below:
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gymraeg Y Ffin yn chwilio am gynorthwy-ydd dysgu egnïol a brwdfrydig i’r ysgol boblogaidd hon. Mae hwn yn gyfle gwych i weithio ochr yn ochr â'r holl randdeiliaid ysgol i sicrhau lles a datblygiad personol pob plentyn.
Pwrpas y Rôl hon:
1. Gweithio dan gyfarwyddyd uniongyrchol staff addysgu/uwch, fel arfer yn yr ystafell ddosbarth.
2. Cefnogi mynediad i ddysgu ar gyfer disgyblion a darparu cymorth cyffredinol i’r athro wrth reoli’r disgyblion a’r ystafell ddosbarth.
3. Cefnogi grwpiau dysgu.
Eich cyfrifoldebau yw:
1. Diwallu anghenion personol y disgyblion, a gweithredu rhaglenni personol cysylltiedig, yn cynnwys materion cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, cymorth tŷ bach, bwyta a symudoledd.
2. Arolygu a chynorthwyo disgyblion gan sicrhau eu diogelwch a mynediad i ddysgu.
3. Meithrin cydberthnasau da gyda disgyblion, ymddwyn fel model rôl a bod yn ymwybodol o anghenion unigol gan ymateb iddynt.
4. Sicrhau bod pob disgybl yn cael ei gynnwys a’i dderbyn.
5. Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau dan arweiniad yr athro.
6. Annog disgyblion i ymddwyn yn annibynnol fel y bo’n addas.
#J-18808-Ljbffr