Math o Gontract: Contract Cyfnod Penodol o 17 mis
Lleoliad: Bangor
Cyflog: £21,840
Mae prentisiaeth yn y BBC yn gyfle i chi roi hwb i'ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Ni yw arweinwyr y diwydiant mewn gyrfaoedd cynnar ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu eich sgiliau a'ch talent. Fel un o'r sefydliadau mwyaf creadigol a datblygedig o ran technoleg yn y byd dros y 100 mlynedd diwethaf, mae gyrfa yn y BBC yn golygu y cewch gyfle i ddysgu gan y gweithwyr proffesiynol mwyaf profiadol ac uchel eu parch yn y busnes.
Mae'r Cynllun Prentisiaeth Cynhyrchu yn eich helpu chi i gael profiad gyda thimau cynhyrchu'r BBC ar draws y DU, sy'n creu cynnwys o'r radd flaenaf ar gyfer ein cynulleidfaoedd ar y radio, ar y teledu neu ar lwyfannau digidol. Byddwch yn dysgu yn y gwaith fel rhan o un o dimau cynhyrchu'r BBC, gan ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth cynhyrchu gydag un o'n darparwyr dysgu.
PRIF GYFRIFOLDEBAU
Beth fyddwch chi'n ei wneud ar y brentisiaeth?
Fel Prentis Cynhyrchu, byddwch yn dysgu ystod eang o sgiliau ac yn ennill amrywiaeth o brofiadau bywyd go iawn a allai gynnwys: helpu i ddatblygu syniadau a straeon; dysgu sut i ddefnyddio offer technegol a meddalwedd arbenigol; helpu eich tîm ar leoliad/mewn stiwdio; dod o hyd i westeion a chyfranogwyr; ymchwilio i gynnwys; creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol; helpu neu fod yn rhedwr ar lawr y stiwdio; mewn oriel deledu; mewn stiwdio radio. Drwy gydol hyn i gyd, byddwch yn dysgu sgiliau creu cynnwys gan aelodau profiadol o'r tîm cynhyrchu, yn ogystal â hyfforddwyr arbenigol y BBC.
Beth fyddwch chi'n ei astudio?
Byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster prentisiaeth sy'n cael ei gydnabod gan y diwydiant, gan ddysgu yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith. Bydd hyn yn cynnwys dysgu am gynulleidfaoedd, sut mae timau cynhyrchu'n gweithio, creu cynnwys sain a fideo, yn ogystal â datblygu sgiliau i'ch paratoi ar gyfer gyrfa ym maes cynhyrchu yn y BBC, neu yn y diwydiant creadigol ehangach.
I ble y gallai'r rôl hon fynd â chi?
Ar ôl cwblhau eich prentisiaeth yn llwyddiannus, byddwch yn gallu chwilio am gyfleoedd gwaith yn y BBC neu'r tu allan i'r BBC fel Rhedwr, Ymchwilydd Iau, Cynorthwyydd Cynnwys neu Gynorthwyydd Golygu, Gweithredwr Technegol (yn dibynnu ar y lleoliad a ddewiswch).
Mae'r cynllun hwn yn dechrau ym mis Medi 2025 a byddwch ar gontract cyfnod penodol, sy'n golygu bod eich contract am gyfnod y brentisiaeth yn unig. Mae'r cynllun hwn yn para 17 mis.
GWYBODAETH AM Y LLEOLIADAU
Mae allbwn BBC RADIO CYMRU yn aml-lwyfan. Gyda'r cynllun hwn, byddwch yn dysgu sut i baratoi rhaglenni byw a rhaglenni wedi'u recordio ymlaen llaw, gan ddatblygu sgiliau ymchwil a chynhyrchu. Bydd cyfleoedd hefyd i baratoi cynnwys ysgrifenedig a fideo ar gyfer ein gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein. Oes gennych chi ddiddordeb mewn cerddoriaeth, darnau nodwedd, newyddiaduraeth, drama neu gomedi? Mae'r hyn a gynigir gan yr adran hon yn amrywiol ac yn gyffrous!
AI CHI YW'R YMGEISYDD GORAU?
Mae gennym ddiddordeb yn eich angerdd i weithio yn y BBC a'ch brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o'r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i'n cynulleidfaoedd. Rydyn ni'n chwilio am bobl gadarnhaol sy'n dilyn ein gwerthoedd ac yn sicrhau bod ein diwylliant yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn llawn cyfleoedd. Nid ydym yn canolbwyntio ar eich cymwysterau, yn hytrach rydyn ni'n chwilio am botensial, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a'ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.
Drwy gydol y broses ddethol, byddwn yn chwilio am dystiolaeth o sut rydych chi'n dangos pob un o werthoedd ac ymddygiadau'r BBC. Mae ein gwerthoedd yn sail i bopeth a wnawn. Maent yn diffinio'r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gan y BBC, a'r hyn y mae'r BBC yn ei ddisgwyl gennych chi. Rhagor o wybodaeth am ein gwerthoedd yma.
Prentisiaid Cynhyrchu gwych yw'r rhai sy'n gallu dangos y nodweddion canlynol:
1. Bod yn angerddol a chwilfrydig am gynnwys, a'r broses gynhyrchu yn y BBC
2. Bod yn llawn syniadau newydd a safbwyntiau ffres am gynnwys y BBC
3. Bod yn aelod gwych o dîm sy'n gallu delio â heriau annisgwyl
4. Bod yn hyblyg ac yn barod i addasu i'r gwaith.
Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd a bod gennych chi ddiddordeb mewn rolau cynhyrchu yn y BBC, rydyn ni'n argymell eich bod yn gwneud cais am swyddi yn careers.bbc.co.uk neu'n taro golwg ar ein cynlluniau prentisiaeth eraill.
Mae'n rhaid i chi fodloni'r canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC:
1. Bod yn 18 oed neu'n hŷn pan fydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2025.
2. Erbyn dechrau'r brentisiaeth ym mis Medi 2025, bod wedi byw yn y DU neu mewn Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) am o leiaf 3 blynedd.
3. Bod yn gymwys i weithio yn y DU yn llawn amser drwy gydol y contract prentisiaeth.
4. Peidio â bod yn cymryd rhan mewn cynllun prentisiaeth sy'n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd.
I wneud cais am y cynllun hwn, rhaid bodloni'r canlynol hefyd:
1. Nid ydych wedi cwblhau cymhwyster ym mhwnc y brentisiaeth ar yr un lefel neu lefel uwch, nac yn meddu ar gymhwyster o'r fath.
YR HYN Y BYDDWCH CHI'N EI GAEL
Yn ystod eich Prentisiaeth:
1. Cyflog cychwynnol o £21,840
2. Hyfforddiant gyda'r gorau yn y diwydiant drwy BBC Academy a'n darparwyr dysgu (gallai olygu teithio i leoliadau ledled y DU)
3. Rheolwr Tîm ac Arbenigwr Cynllun dynodedig i helpu gyda'ch datblygiad
4. Hyfforddiant a Mentora gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant
5. Wythnos waith 35 awr, 25 diwrnod o wyliau blynyddol a chynllun pensiwn â buddion wedi'u diffinio. Yn ogystal â gofal deintyddol a gofal iechyd rhatach, aelodaeth o gampfa a llawer mwy.
Tuag at ddiwedd eich prentisiaeth:
1. Cymhwyster sy'n cael ei gydnabod gan y diwydiant
2. Llawer o brofiad i'ch helpu i chwilio am heriau a chyfleoedd gwaith newydd yn y BBC ac yn y diwydiant ehangach
3. Hyfforddiant rhwydweithio a chyflogadwyedd i'ch helpu i sicrhau eich rôl nesaf.
Y CAMAU NESAF
Peidiwch â cholli'r cyfle i fod yn rhan o rywbeth arbennig. Os mai hwn yw'r cyfle i chi, ewch i 'Gwneud cais nawr'!
Ar ôl i chi sefydlu eich proffil ymgeisydd, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ateb y cwestiynau yn yr adran gwybodaeth sy'n benodol i'r swydd ar y cais. Does dim angen i chi lanlwytho CV na Llythyr Eglurhaol. Rydyn ni'n chwilio am eich potensial i wneud gwahaniaeth i'r BBC.
Os ydych chi'n gymwys ar gyfer y cynllun, byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am gamau'r broses a beth i'w ddisgwyl. Mae trosolwg cyffredinol o'r broses ymgeisio ar gael yma.
Cofiwch fod yn rhaid i chi fyw o fewn pellter cymudo i'r lleoliad BBC rydych chi'n gwneud cais amdano ar gyfer y brentisiaeth hon. Mae'r cynllun PRA25 hwn hefyd yn cael ei gynnig mewn lleoliadau eraill, gweler yr hysbysebion cyfatebol os ydych chi'n dymuno gwneud cais am y lleoliadau hyn. Dylech chi wneud cais i un lleoliad yn unig.
Bydd prentisiaid sy'n dechrau yn y BBC o fis Medi 2025 ymlaen yn cael eu rhoi ar gontract 'Tymor Sefydlog'. Mae hyn yn golygu mai dim ond am gyfnod eich prentisiaeth y mae eich contract. Mae'r BBC wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn talent newydd ac, wrth i chi nesáu at ddiwedd eich prentisiaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i'ch cefnogi ac yn cynnig hyfforddiant cyflogadwyedd a rhwydweithio i chi i'ch helpu i sicrhau eich rôl nesaf - gallai hyn fod yn swydd yma yn y BBC, neu rywle yn y diwydiant cyfryngau ehangach.
Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer y rôl/cynllun yma'n cau ar 17/01/2025.
GAIR AM Y BBC
Mae amrywiaeth yn bwysig yn y BBC. Mae gennym amgylchedd gwaith lle rydyn ni'n gwerthfawrogi ac yn parchu cyfraniad unigryw pob unigolyn, gan alluogi pob un o'n gweithwyr i ffynnu a chyflawni eu potensial yn llawn.
Rydyn ni eisiau denu'r ystod ehangaf o bobl dalentog i fod yn rhan o'r BBC - boed hynny i gyfrannu i'n rhaglenni neu i'n hystod ehangaf o swyddi nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu. Po fwyaf amrywiol yw ein gweithlu, y mwyaf y bydd modd i ni ymateb i'n cynulleidfaoedd a'u hadlewyrchu yn eu holl amrywiaeth.
Rydyn ni wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion, beth bynnag fo'u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred.
I gael rhagor o wybodaeth am Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y BBC, cliciwch yma.
Cymorth gyda'ch cais
Ein huchelgais ni yw bod y BBC i bawb ac y dylai gynnwys pawb. Rydyn ni'n falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau sy'n gysylltiedig ag anabledd.
Rydyn ni'n cymryd cynhwysiant o ddifrif ac rydyn ni am sicrhau bod pob ymgeisydd sydd ag anabledd neu sydd â chyflyrau iechyd tymor hir yn cael y cymorth a'r addasiadau sydd eu hangen arnynt. Os oes angen addasiadau rhesymol arnoch chi ar gyfer y broses ymgeisio, neu os oes gennych chi anghenion mynediad yr hoffech chi roi gwybod i ni amdanynt, cysylltwch â ni yma. Byddem yn fwy na pharod i gael sgwrs gyfrinachol i drafod sut gallwn ni eich cefnogi chi drwy'r broses. ID y cais i lenwi'r rôl hon yw 20521. #J-18808-Ljbffr