Ymarferydd Lles Seicolegol Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gynnig cyfle prin i Ymarferydd Lles cymwysedig ymuno â'n Tîm Lles. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n annibynnol i gynnig ymyriadau therapiwtig proffesiynol, priodol a chyfrannol o fewn fframwaith gofal fesul cam sy'n bodoli eisoes. Bydd eu gwaith yn cynorthwyo pobl ifanc i gyflawni eu potensial academaidd, drwy oresgyn rhwystrau sy'n gysylltiedig â materion emosiynol, seicolegol neu iechyd meddwl a’u cefnogi wrth iddynt bontio i fywyd proffesiynol fel oedolyn. Mae Ymarferwyr Lles yn darparu amrywiaeth o ymyriadau lles ysgafn ac aml i gefnogi myfyrwyr sy'n cael problemau emosiynol, seicolegol ac iechyd meddwl yn ystod eu hamser yn y Brifysgol. Mae'r rôl hon yn rhan glinigol, ac felly disgwylir i chi gael y cymwysterau a'r profiad priodol ar gyfer darparu ymyriadau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o fewn fframwaith gofal fesul cam. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer y rhai sy’n chwilio am waith llawn amser neu ran amser ac mae’r swydd yn benagored. Cyflog: £40,247 to £45,163 y flwyddyn (Gradd 6) pro rata am oriau gwaith. Rydym yn cynnig pecyn talu ardderchog, gan gynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn ynghyd ag gŵyl fanc, pro rata ar gyfer staff rhan-amser, yn ogystal â mynediad at amrywiaeth o ostyngiadau a chyfleoedd datblygu staff trwy hyfforddiant achrededig. Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 19 Tachwedd 2024 Hysbysebwyd y swydd hon i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig yn flaenorol. Rydym nawr yn gwahodd ceisiadau allanol. Sylwer bod Prifysgol Caerdydd yn cadw'r hawl i roi'r gorau i hysbysebu'r swydd hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Dyletswyddau’r Swydd Cynnig gwasanaeth lles proffesiynol i'r Brifysgol, gan ddarparu ymyriadau therapiwtig proffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a rhoi cyngor i reolwyr Ysgol ac eraill ar sut mae anawsterau lles yn effeithio ar berfformiad yr Ysgol, gan arwain eu maes eu hunain fel rhan o fframwaith gofal fesul cam, a ddarperir o fewn Gwasanaeth Iechyd a Lles y Prifysgolion a Chwnsela. Delio â llwyth achosion eang ac amrywiol o faterion cymhleth yn ymwneud â lles myfyrwyr cymhleth, gan reoli fel y bo'n briodol, gan sicrhau y rhoddir cymorth amserol ym mhob maes ac i’r myfyriwr, a bod unrhyw faterion cyffredin yn cael eu hamlygu, eu dadansoddi a'u hadrodd fel y bo'n briodol. Defnyddio crebwyll a chreadigrwydd i gefnogi'r camau gweithredu mwyaf priodol, gyda ffocws ar y myfyrwyr hynny sydd wedi profi trawma, gan ofalu bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall a'u cyfleu. Cyflwyno gofynion gwasanaeth lles rhagweithiol i'r sefydliad, gan newid y ddarpariaeth yn unol â gofynion y Brifysgol, y cleient a'r gwasanaeth. Cydweithio ag eraill er mwyn gwneud argymhellion i ddatblygu prosesau neu weithdrefnau newydd a sefydledig i wella sut y cyflwynir gwasanaethau. Cyflwyno amrywiaeth o weithdai wyneb yn wyneb / ar-lein. Chwarae rôl amlwg yn y gwaith o ddarparu ymyriadau lles rhagweithiol ar draws y brifysgol i wella lles myfyrwyr ac iechyd meddwl gan weithio mewn partneriaeth â'r Rheolwr Lles Myfyrwyr. Er enghraifft, hyrwyddo ymgyrchoedd lles, rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth i fyfyrwyr a chyfrannu at gydlynu ein rhaglen cymorth cymheiriaid Ymwneud â gweithgorau penodol sy'n cynnwys cydweithwyr ar draws y Brifysgol i gyflawni amcanion yr adran fel bo'r angen. Dyletswyddau penodol Gwybod pryd y dylid cyfeirio unigolyn i rywle arall i gael cymorth proffesiynol amgen gan weithio o fewn fframwaith moesegol BACP (neu fframwaith priodol arall). Asesu’r risg y bydd myfyrwyr yn niweidio eu hunain neu eraill ac yn dwysáu neu'n cyfeirio fel sy'n briodol. Mynychu goruchwyliaeth glinigol reolaidd. Cymhwyso ehangder o brofiad, gwybodaeth weithredol a hyfedredd mewn sgiliau lles therapiwtig a mwy cyffredinol, dangos datblygiad arbenigol parhaus, ymgymryd â gweithgareddau DPP mewnol a/neu allanol. Dyletswyddau Cyffredinol Sicrhau bod lefelau priodol o gyfrinachedd yn cael eu cadw yn unol â pholisi diogelu data'r Brifysgol a fframwaith moesegol BACP wrth ymgymryd â phob dyletswydd. Ymgymryd â dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â’r swydd Cadw at bolisïau'r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth gan gynnwys deall sut y gallai'r amgylchedd gwaith effeithio ar ei waith eu hun a gwaith cydweithwyr. Nodyn pwysig: Mae'n bolisi gan y Brifysgol i ddefnyddio manyleb yr unigolyn fel adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol. Fel rhan o’ch cais, gofynnir i chi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad i ategu'r cais. Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf isod sydd wedi' rhifo. Ystyrir eich cais ar sail y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi o dan bob elfen. Wrth atodi’r datganiad i ategu eich cais i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen e.e. Datganiad Ategol ar gyfer 18608BR. Meini Prawf Hanfodol Cymwysterau ac Addysg Cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig i lefel diploma neu gyfwerth; er enghraifft, cwrs BACP neu BABCP a gydnabyddir, NEU gymhwyster lefel gradd / Diploma PG mewn nyrsio; therapi galwedigaethol; seicoleg; gwaith cymdeithasol, cynghori therapiwtig, NEU Gymhwyster Ymarferydd Lles Seicolegol / Gweithiwr Dwysedd Isel. Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad Gallu dangos gwybodaeth broffesiynol am ddatblygiadau allweddol o fewn lles, gan gynnwys ymgyfarwyddo ag ymyrraeth lles benodol. Sgiliau a phrofiad o ran asesu a thrin materion lles cyffredin. Gallu rhoi cyflwyniadau effeithiol ar amrywiaeth o bynciau lles. Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm Gallu cyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i amrywiaeth eang o bobl. Tystiolaeth o allu ystyried anghenion rhanddeiliaid a defnyddio data meintiol ac ansoddol i wneud yn siŵr bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu. Profiad sylweddol o weithio mewn lleoliad sefydliadol fel IAPT/ymarferydd lles/neu gwnselydd. Gweithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm, i roi cefnogaeth effeithiol i fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau lles cyffredin. Y gallu diamheuol i ddatblygu rhwydweithiau er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau hirdymor Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau Tystiolaeth o allu datrys problemau eang drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, gan gynnwys nodi a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau lle gallai’r canlyniadau amrywio Profiad o wella gwasanaethau, defnyddio data perfformiad gwasanaeth ac adborth cleientiaid i ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd. Meini Prawf Dymunol Profiad o weithio mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol / IAPT. Wedi gweithio mewn gwasanaeth gyda thargedau y cytunwyd arnynt i ddynodi canlyniadau clinigol. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar