Heddlu: Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl: Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran: Cyfiawnder Troseddol a'r Ddalfa
Lleoliad: Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol: Sefydlog
Gradd E
Cyflog £31,296 - £34,329
Rhan/Llawn Amser: Llawn Amser
Oriau'r Wythnos 37
Math o Gytundeb: Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 14 Ionawr 2025
Dyddiad cau 05/12/24 23:55
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Goruchwylydd Rheoli Tystiolaeth yn Cyfiawnder Troseddol / Gwasanaethau Cyfiawnder .
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Goruchwylio darpariaeth Gwasanaeth Rheoli Tystiolaeth effeithiol ac effeithlon, gan gynnwys rheoli stocrestrau a chael gwared ar eiddo tystiolaethol ac eiddo y daethpwyd o hyd iddo, gan gydymffurfio â deddfwriaethau, canllawiau a pholisïau. Mae hyn yn cynnwys storio, cadw a chael gwared ar arian, cyffuriau ac arfau saethu’n ddiogel, yn ogystal ag eitemau o dystiolaeth sensitif.
Datblygu a rheoli llwyth gwaith y tîm Rheoli Tystiolaeth yn yr Uned Rheoli Tystiolaeth ac Ardaloedd Plismona Lleol, gan osod blaenoriaethau ac amserlenni gwaith er mwyn sicrhau safon cyflenwi gwasanaeth uchel ar draws yr Uned, gan gydymffurfio ag unrhyw amserlenni y cytunir arnynt, rhwymedigaethau deddfwriaethol, gofynion statudol a gofynion gweithrediadol.
Casglu a chyflwyno gwybodaeth reoli i’r Rheolwr Rheoli Tystiolaeth gyda data perfformiad i nodi arfer gorau a meysydd y mae angen eu gwella er mwyn sicrhau bod yr adran yn gweithio mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.
Bod yn bwynt cyswllt sengl ar gyfer Swyddogion Ymchwilio’r Crwner a theuluoedd gwrthrych ymadawedig ymchwiliad Crwner. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y mater yn cael ei drin yn sensitif a bod arian ac eiddo’n cael eu dychwelyd cyn gynted â phosibl i ddarparu cymorth o safon uchel i deuluoedd mewn galar a lleihau perygl i enw da’r sefydliad.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.
Beth allwch chi ddisgwyl?
Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.
Amrywiaeth a’r Gymraeg
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.
Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.
Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.
Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Pwynt gwybodaeth:
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk
Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.