Clerc y Cyngor ac Ysgrifennydd y Cwmni
Rhan Amser 21 awr yr wythnos
Graddfa Gyflog £44,010.50 i £47,696.58 (pro rata) y flwyddyn (dyfarniad cyflog yn yr arfaeth)
Yn ogystal â phecyn buddion a gwyliau hael
Ymunwch gyda Ni yn Addysg Oedolion Cymru – Lle Mae Dysgu’n Trawsnewid
Bywydau
Yn Addysg Oedolion Cymru, credwn fod addysg yn arf pwerus ar gyfer trawsnewid personol a chymunedol. Fel prif ddarparwr Cymru ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch o ansawdd uchel sy’n grymuso unigolion i wireddu eu potensial a chyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo dysgu gydol oes ac ehangu mynediad at ddysgu a sgiliau, gan feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle gall pawb ffynnu. Rydym yn falch o'n gwerthoedd a'n hethos, sydd wedi'u gwreiddio mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a pharch.
Gwerthfawrogwn ein staff fel ein hased mwyaf ac rydym yn ymroddedig i greu gweithle cadarnhaol, cydweithredol a deinamig lle mae pob aelod o'r tîm yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi a'i ysgogi i gyflawni ei orau.
Yr Rôl: Clerc i’r Cyngor ac Ysgrifennydd y Cwmni
Rydym yn chwilio am unigolyn ymroddedig a medrus i ymuno gyda'n tîm fel Clerc y Cyngor ac Ysgrifennydd y Cwmni. Yn y rôl lywodraethu hanfodol hon, byddwch yn darparu cymorth gweinyddol a llywodraethu hanfodol i Gyngor Addysg Oedolion Cymru, ein Corff Llywodraethu. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr i sicrhau bod ein harferion llywodraethu yn bodloni’r gofynion cyfreithiol, yn cyd-fynd ag arferion gorau, ac yn cefnogi ein nodau strategol.
Mae hwn yn gyfle unigryw i gyfrannu at lywodraethu sefydliad deinamig a blaengar. Rydym yn ymroddedig i feithrin gweithle sy'n adlewyrchu'r cymunedau amrywiol a wasanaethwn, a chroesawn ymgeiswyr o bob cefndir sy'n cynnig amrywiaeth o safbwyntiau, galluoedd a sgiliau i'n helpu i gyflawni ein cenhadaeth o gael effaith ystyrlon ar ddysgwyr ledled Cymru.
Cyfrifoldebau Allweddol:
• Bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer pob mater sy'n ymwneud gyda llywodraethu'r Sefydliad.
• Trefnu a mynychu cyfarfodydd y Cyngor a phwyllgorau, sicrhau dogfennaeth gywir a chydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol a rheoliadol.
• Cynhyrchu cofnodion y cyfarfodydd hyn
• Darparu cyngor a chymorth arbenigol ar faterion llywodraethu i'r Cadeirydd, y Prif Weithredwr ac aelodau'r Cyngor.
• Cynnal a rheoli cofnodion statudol a sicrhau adroddiadau amserol i gyrff perthnasol.
• Cyfrannu at y broses cynllunio strategol, sicrhau bod arferion llywodraethu yn cefnogi cenhadaeth a gwerthoedd y sefydliad.
Amdanoch chi:
Rydym yn chwilio am rywun sy'n angerddol am lywodraethu ac yn awyddus i gael effaith gadarnhaol. Dylai fod gennych sgiliau trefnu rhagorol, llygad craff am fanylion, a'r gallu i weithio'n effeithiol dan bwysau. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu o’r radd orau, gan eich galluogi i weithio'n effeithiol ac ar y cyd gydag ystod amrywiol o randdeiliaid.
Byddwch yn rhannu ein hymrwymiad i werthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant ac yn cael eich ysgogi gan y cyfle i gyfrannu at lwyddiant sefydliad sy'n ymroddedig i drawsnewid bywydau. Er bod profiad mewn rôl debyg yn cael ei werthfawrogi, rydym yr un mor awyddus i gefnogi'r rhai sy'n dod â'r sgiliau cywir, y galluoedd a brwdfrydedd, ac sy'n awyddus i dyfu a datblygu yn y rôl hon.
Gofynion Hanfodol:
• Gwybodaeth gref neu addysg mewn llywodraethu, y gyfraith, neu faes cysylltiedig, a ddangosir drwy radd berthnasol, ardystiad, neu brofiad cyfatebol.
• Hyfedredd mewn arferion llywodraethu allweddol a dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol sy'n effeithio ar lywodraethu.
• Sgiliau cyfathrebu a TG eithriadol, gyda'r gallu i gyfleu gwybodaeth gymhleth yn effeithiol a gweithio gydag amrywiol offer digidol.
• Agwedd ragweithiol ac addasadwy, gyda pharodrwydd i weithio’n hyblyg a theithio yn ôl yr angen.
Dymunol:
• Profiad yn y sectorau addysg neu elusen.
• Rhuglder yn y Gymraeg neu ymrwymiad i ddysgu.
Pam gweithio gyda ni?
Yn Addysg Oedolion Cymru, rydym yn cynnig amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol lle caiff eich cyfraniadau eu gwerthfawrogi, a lle anogir eich twf proffesiynol. Darparwn drefniadau gweithio hyblyg, cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus, a'r cyfle i fod yn rhan o dîm sy'n cael effaith wirioneddol mewn cymunedau ledled Cymru.
Ymunwch gyda ni i helpu i lunio dyfodol addysg oedolion yng Nghymru.
Ymgeisiwch erbyn 12.00yp Dydd Gwener 4ydd Hydref gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - sylwer os gwelwch yn dda na dderbynnir CV ar ei ben ei hun. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.
Proses Recriwtio a Dethol
Cynhelir cyfweliadau ar ddydd Llun 21ain a dydd Mawrth 22ain Hydref, ac yn ddelfrydol bydd yn cymryd lle wyneb yn wyneb yn ein swyddfa yng Nghaerdydd (os oes angen, fe ystyrir cyfweliad ar-lein drwy Microsoft Teams).
Fel rhan o'r broses dethol bydd gofyn i chi wneud asesiad, a byddwch yn cael unrhyw fanylion ychwanegol pan eich gwahoddir i'r cyfweliad.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.