CYNORTHWYDD GWEITHREDOL
AD A’R UNED CEFNOGI BUSNES
Pencadlys Y Gwasanaeth, Llanelwy
Cytundeb Cyfnod Penodol 12 mis
37 awr yr wythnos
Graddfa GTAGC 07 £34,314 - £37,035 y flwyddyn
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Gynorthwydd Gweithredol ymuno â'r Uned Cefnogi Busnes ym Mhencadlys ein Gwasanaeth yn Llanelwy.
Gan weithio fel rhan o dîm bychan dwyieithog, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr i Dîm Prif Swyddog y Gwasanaeth sy'n cynnwys y Prif Swyddog Tân, y Dirprwy Brif Swyddog Tân, a Phrif Swyddogion Tân Cynorthwyol. Byddwch hefyd yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i Aelodau'r Awdurdod Tân ac Achub.
Byddwch yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd mewnol, cymryd nodiadau a pharatoi agendâu. Bydd dyletswyddau gweinyddol cyffredinol yn cynnwys paratoi dogfennau ar gyfer Tîm y Prif Swyddog, delio â gohebiaeth, cymryd negeseuon a sicrhau bod pob ymholiad ac e-bost yn cael ei ateb yn bersonol neu'n cael ei roi i'r unigolyn priodol.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd gofyn bod yn gyfathrebwr effeithiol gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da, profiad o drefnu a chefnogi cyfarfodydd a pharodrwydd i helpu eraill. Gan feddu ar sgiliau trefnu da i reoli eich llwyth gwaith a chadw at derfynau amser, bydd angen i chi fod yn hyblyg a gallu addasu i newid er mwyn delio â cheisiadau pan fyddan nhw’n godi. Bydd angen i chi allu gweithio'n annibynnol ac o’ch pen a’ch pastwn eich hun.
Mae’r gallu i gyfathrebu'n hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Sylwch fod y swydd hon yn amodol ar Wiriad DBS a geirdaon boddhaol. I cael mwy o fanylion am y rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth.
I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais ydi hanner dydd, Dydd Llun 17eg Chwefror, 2025