Athro/Athrawes Cerdd a’r Celfyddydau Mynegiannol - Ysgol Caer Elen
Disgrifiad Swydd
Athro/Athrawes Cerdd a'r Celfyddydau Mynegiannol (Cyfnod Mamolaeth)
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gymraeg Pob Oed Caer Elen, Hwlffordd yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chymwys i ymgymryd â'r swydd hon. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfrifol am ddysgu Cerddoriaeth TGAU ynghyd â'r Celfyddydau Mynegiannol yng Ngham Cynnydd 4 (Bl 7, 8 a 9). Edrychwn am unigolyn egnïol a dawnus a fydd yn barod i gyfrannu'n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr ysgol. Cytundeb cyfnod mamolaeth fydd yn cael ei gynnig a disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar y gwaith o fis Medi 2024 ymlaen.
Ysgol Pob Oed 3-16 yn nhref hanesyddol Hwlffordd yw Ysgol Caer Elen sydd yn cynnig cyfleusterau rhagorol. Mae ein haddysgeg a'r ethos dysgu holistaidd yn galluogi ein disgyblion i gyfranogi a datblygu mewn amgylchedd ysgogol, hapus a diogel.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
* Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein neu os oes arnoch angen cymorth drwy anfon e-bost at recruit@pembrokeshire.gov.uk.
* Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
* Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
#J-18808-Ljbffr