Cydlynydd Gwella a Datblygu
Caerdydd a Llandudno, Cymru
Amdanom ni
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, a data ac ymchwil i wella gofal. Trwy ein gwaith sicrhau ansawdd, rydym yn cefnogi addysgwyr gwaith cymdeithasol mewn lleoliadau addysg ac ymarfer, gan sicrhau'r lefel uchaf o hyfforddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol.
Rydym nawr yn chwilio am Gydlynydd Gwella a Datblygu i ymuno â ni am gyfnod penodol o 12 mis. Cynigir y rôl hon gydag opsiynau gweithio hyblyg a byddwn yn ystyried ymgeiswyr fel rhan o rannu swydd.
Mae'n rhaid i chi fod wedi eich lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon ac yn gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd datganedig yn ôl yr angen.
Y Manteision
- Cyflog o £29,651 - £32,061
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Polisi absenoldeb teuluol
Y Rôl
Fel Cydlynydd Gwella a Datblygu, byddwch yn cefnogi amrywiaeth o feysydd gwaith gwella a datblygu, prosiectau, rhwydweithiau a phartneriaethau.
Gan ddarparu gwasanaeth gweinyddol hollbwysig, byddwch yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan gynorthwyo gyda datblygu a chyflwyno prosiectau a chwarae rôl gefnogol hanfodol wrth gydlynu cyfarfodydd mewnol ac allanol.
Yn ogystal, byddwch yn casglu ac yn dadansoddi data ac yn adeiladu argymhellion ar gyfer amcanion a blaenoriaethau yn y dyfodol, yn ogystal â sefydlu a chynnal systemau gweinyddol, gweithdrefnau a chronfeydd data.
Amdanoch Chi
Er mwyn i chi gael eich ystyried yn Gydlynydd Gwella a Datblygu, bydd angen:
- Profiad mewn gweinyddu busnes
- Profiad o ddarparu cymorth gweinyddol mewn cyfarfodydd, gan gynnwys cymryd cofnodion
- Profiad o weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
- Gwybodaeth am y sector cyhoeddus a dealltwriaeth o rôl Llywodraeth Cymru yng ngwaith Gofal Cymdeithasol Cymru
- Rheoli amser a blaenoriaeth effeithiol
- Rhuglder yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys gwrando, ysgrifennu a siarad
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 6 Mai 2025.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Gydlynydd Prosiect, Swyddog Gweinyddol, Swyddog Prosiect, Cynorthwy-ydd Cefnogi Rhaglen, neu Weinyddwr Rhaglen.
Gellir gwneud addasiadau yn ystod unrhyw ran o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, sy'n niwro-wahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â’r tim Adnoddau Dynol i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.
Felly, os ydych am ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru fel Cydlynydd Gwella a Datblygu, gwnewch gais drwy’r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Improvement and Development Co-ordinator
Cardiff & Llandudno, Wales
About us
At Social Care Wales, we provide leadership and expertise in social care and early years in Wales. Our vision is to make a positive difference to care and support for children, adults, and their families and carers.
To achieve this, we lead on developing and regulating the social care workforce, service improvement, and data and research to improve care. Through our quality assurance work, we support social work educators in both education and practice settings, ensuring the highest level of training for the next generation of social workers.
We are now looking for an Improvement and Development Co-ordinator to join us on a 12 month, fixed-term basis. This role is offered with flexible working options and we will consider candidates as part of a job share.
You must be based in the UK to apply for this role and be able to visit one of the stated offices when required.
The Benefits
- Salary of £29,651 - £32,061
- 28 days’ holiday plus bank holidays (increasing with length of service)
- Extra days off between Christmas and New Year
- Local government pension scheme
- Flexi work policy
- Family leave policy
The Role
As an Improvement and Development Co-ordinator, you will support a variety of improvement and development work areas, projects, networks and partnerships.
Providing a critical administrative service, you will work in both English and Welsh, assisting with project development and delivery and playing a vital support role in co-ordinating internal and external meetings.
Additionally, you will collect and analyse data and build recommendations for future objectives and priorities, as well as establishing and maintaining administrative systems, procedures and databases.
About You
To be considered as an Improvement and Development Co-ordinator, you will need:
- Experience in business administration
- Experience providing administration support at meetings, including taking minutes
- Experience working both independently and as part of a team
- Knowledge of the public sector and an understanding of the Welsh Government’s role in the work of Social Care Wales
- Effective time and priority management
- Fluency in English and Welsh, including listening, writing and speaking
The closing date for this role is 6th May 2025.
Other organisations may call this role Project Co-ordinator, Administrative Officer, Project Officer, Programme Support Assistant, or Programme Administrator.
Reasonable adjustments can be made at any stage of the recruitment process for candidates with a disability, impairment or health condition, for example, who are neuro-divergent or who use British Sign Language. Please get in touch with the HR Team to discuss adjustments for any part of the process.
So, if you want to join Social Care Wales as an Improvement and Development Co-ordinator, please apply via the button shown. This vacancy is being advertised by Webrecruit. The services advertised by Webrecruit are those of an Employment Agency