*English below*
Rhan amser, 22.2 awr yr wythnos (diwrnodau hyblyg)
Cyfnod penodol am 12 mis
Gradd B: Cyflog cychwynnol o £15,766 (£26,277 pro rata)
Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.
Mae’r Cydlynydd Rhyngwladol yn cefnogi gweithgareddau, prosiectau a gwasanaethau Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae hyn yn cynnwys datblygu gwasanaethau gwybodaeth rhyngwladol, cydlynu cyfathrebu, gohebiaeth ac apwyntiadau. Mae hefyd yn cynnwys cynllunio, trefnu a gweinyddu cyfarfodydd mewnol ac allanol, digwyddiadau a chynadleddau a chymryd rhan mewn cyflwyno gwaith cyswllt rheng flaen gyda sectorau yng Nghymru ac mewn cyd-destunau rhyngwladol.
Prif ffocws y rôl benodol hon yw darparu gwasanaeth gweinyddol a chymorth o ansawdd uchel i Wybodfan Celf y DU. Bydd yn gweithio wrth ochr Swyddog Gwybodfan Celf y DU, partneriaid Gwybodfan Celf y DU a thîm Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Menter i gynorthwyo sector y celfyddydau a gwybodaeth am faterion ymarferol o ran symudedd yw Gwybodfan Celf y DU. Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, asiantaeth rhyngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd yn arwain y prosiect mewn partneriaeth a Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Lloegr, a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon.
Amdanoch chi<...