Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn 12:00yh Dydd Gwener 28.03.2025
Rydym yn ceisio Trysorydd o'r calibr uchaf i ddarparu cyngor proffesiynol cadarn ar faterion ariannol strategol a rheolaeth ariannol strategol i sicrhau y cyflawnir ein hymrwymiadau statudol, a bod y Gwasanaeth wedi'i saernïo i wynebu heriau'r dyfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn weithiwr ariannol proffesiynol hollol gymwys ac yn aelod o gorff proffesiynol, parchus.
Bydd profiad helaeth o reolaeth ariannol strategol yn hanfodol. Hefyd, bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fedru arddangos creadigrwydd a sgiliau rhyngbersonol o safon uchel, gyda'r gallu i berswadio pobl eraill i wella llythrennedd ariannol ar draws y sefydliad.
Mae gwybodaeth a dealltwriaeth gweithredol o effaith wleidyddol polisi ariannol a materion cyfredol ym maes ariannu'r sector cyhoeddus, ac yn fwy penodol llywodraeth leol, yn hanfodol.