Equal Opportunities At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of. Who we are At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing. We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs. Role responsibilities The Project Sponsor is the project lead for delivery and will engage with clients, operations and implementation teams to enable successful delivery of transport enhancement schemes into operation on behalf of Transport for Wales (TfW). Act as the client representative, and informed point of contact for commercial and operational matters relating to the delivery of transport enhancement schemes by monitoring, partnering and communicating with project delivery teams for effective delivery. Track the alignment of the scheme against the programme business case by working across a portfolio of projects to mitigate project risks and ensure effective interface between schemes. Planning delivery of a project to its completion date by reviewing timelines months in advance to understand the potential challenges, for effective programme management. Deliver the transport projects by coordinating internal and external stakeholders and their requirements whilst maintaining services to our customer. Who we’re looking for Previous experience in project management with an understanding of project lifecycles. Experience of managing stakeholders, with the ability to communicate challenges and potential solutions. Demonstrable experience of planning, prioritising and consistently delivering work to a high standard and by the required deadline. Experience of leading and managing investment schemes. Experience of working across projects and identify interconnecting issues with other projects. Welsh Language Skills The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role. Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses. Next steps Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details. Transport for Wales is a disability leader. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful. This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible. Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications. Note that you must hold the permanent right to work in the UK. We are not currently able to provide sponsorship. Cyfle Cyfartal Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono. Pwy ydyn ni Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb. Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw. Cyfrifoldebau’r swydd Noddwr y Prosiect yw arweinydd y prosiect ar gyfer cyflawni a bydd yn ymgysylltu â chleientiaid, gweithrediadau a thimau gweithredu er mwyn gallu rhoi cynlluniau gwella trafnidiaeth ar waith yn llwyddiannus ar ran Trafnidiaeth Cymru (TrC). Bod yn gynrychiolydd y cleient, a bod yn bwynt cyswllt gwybodus ar gyfer materion masnachol a gweithredol sy’n ymwneud â chyflawni cynlluniau gwella trafnidiaeth drwy fonitro, partneru a chyfathrebu â thimau cyflawni prosiectau er mwyn cyflawni’n effeithiol. Olrhain aliniad y cynllun yn erbyn achos busnes y rhaglen drwy weithio ar draws portffolio o brosiectau i liniaru risgiau prosiect a sicrhau cyswllt effeithiol rhwng cynlluniau. Cynllunio’r gwaith o gyflawni prosiect hyd at y dyddiad cwblhau drwy adolygu amserlenni misoedd ymlaen llaw i ddeall yr heriau posibl, er mwyn rheoli rhaglenni’n effeithiol. Cyflawni’r prosiectau trafnidiaeth drwy gydlynu rhanddeiliaid mewnol ac allanol a’u gofynion ar yr un pryd â chynnal gwasanaethau i’n cwsmeriaid. Am bwy rydyn ni’n chwilio Profiad blaenorol o reoli prosiectau gyda dealltwriaeth o gylch bywyd prosiectau. Profiad o reoli rhanddeiliaid, gyda’r gallu i gyfleu heriau ac atebion posibl. Profiad amlwg o gynllunio, blaenoriaethu a chyflawni gwaith o safon uchel yn gyson ac o fewn yr amser sy’n ofynnol. Profiad o arwain a rheoli cynlluniau buddsoddi. Profiad o weithio ar draws prosiectau ac adnabod materion rhyng-gysylltiedig â phrosiectau eraill. Sgiliau Iaith Gymraeg Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol Y camau nesaf A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion. Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus. Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl. Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.