Pecyn Swydd
EX2324
Band : B
Cyflog : £24,300 - £29,000 y flwyddyn yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad
LLeoliad : Bangor / Caerdydd
Mae’r swydd hon yn cael ei hysbysebu fel rhan o ar gyfer pobl anabl. I wneud cais am y rôl hon dylech ystyried eich hun yn fyddar, yn anabl neu’n niwrowahanol a rhaid i chi fodloni naill ai:, neu'r diffiniad o anabledd yn os ydych yn ymgeisio yng Ngogledd Iwerddon. Cewch eich diffinio’n fras fel unigolyn anabl o dan y ddwy ddeddf os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ac andwyol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys cyflyrau a namau amlwg a heb fod yn rhai amlwg, a chyflyrau meddygol fel Canser, HIV neu Sglerosis Ymledol.
Rydym wedi ymrwymo i wneud y broses o wneud cais am y swydd hon mor hygyrch â phosibl. Os oes angen i chi drafod addasiadau neu ofynion mynediad ar gyfer y broses ymgeisio, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen Extend, cysylltwch â thîm BBC Extend drwy .
Mae’r BBC wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu addasiadau i’r gweithle i helpu i gael gwared ar rwystrau yn y gweithle sy’n wynebu pobl anabl. I wneud hyn, mae gennym ein Gwasanaeth Mynediad ac Anabledd pwrpasol ein hunain ar gyfer y BBC sy’n darparu asesiadau a chymorth drwy gydol ein cyflogaeth gyda ni. Os byddwch yn llwyddo yn eich cais am y rôl hon a bod angen addasiadau yn y gweithle arnoch, byddwn yn gweithio gyda chi i roi eich addasiadau ar waith.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am BBC Extend, ewch i .
Cyflwyniad i'r Swydd
Mae Radio Cymru wedi bod yn darlledu ers 1977, gyda Radio Cymru 2 yn lansio yn 2018. Rydym yn darlledu argyfartaledd dros 22 awr o raglenni bob dydd i dros 100,000 o wrandawyr ar draws Cymru ar byd. Mae Radio Cymru yngwasanaethu siaradwyr Cymraeg o bob oedran a diddordeb drwy ddarparu rhaglenni cerddoriaeth, rhaglenni dogfen,rhaglenni trafod, materion cyfoes a gwleidyddiaeth, crefydd, y celfyddydau a llawer mwy-heb sôn am gynniggwasanaeth newyddion a chwaraeon llawn. Rydym hefyd yn bresenoldeb rheolaidd mewn digwyddiadau o bob math felEisteddfod yr Urdd, Tafwyl, Y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol. Cerddoriaeth ac adloniant yw pwyslais RadioCymru 2 a gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymchwilydd ar amrywiaeth o raglenni ar draws Radio Cymru a Radio Cymru.
Prif Gyfrifoldebau
Fel rhan o dîm cynhyrchu creadigol iawn, byddwch yn ymchwilio ac yn datblygu syniadau a chynnwys,weithiau i amserlen dynn. Byddwch yn cyfrannu at y gwaith o ddarlledu’r cynnwys yna ar Radio Cymru a Radio Cymru 2 yn ôl y galw.
Ai chi yw'r ymgeisydd cywir?
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn berson brwdfrydig, creadigol a threfnus, sy’n gweithio’n dda fel unigolyn neu fel rhan o dîm.Bydd hefyd gyda brwdfrydedd dros ddarlledu a diwydiant y cyfryngau.
•Angerdd tuag at ymchwilio cynnwys creadigol a pharodrwydd i gyfrannu i nifer o raglenni amrywiol Radio Cymru.
•Ymwybyddiaeth o ofynion llwyfannau digidol gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, a’r cyfleon allai godi i Radio Cymru aRadio Cymru 2 yn eu sgil.
•Ymwybyddiaeth o arddull Radio Cymru a Radio Cymru 2 a gwybodaeth am yr orsaf a’i rhaglenni.
•Parodrwydd i ddysgu sut i ddefnyddio systemau a gweithdrefnau darlledu newydd.
•Cymraeg llafar ac ysgrifenedig.