Teitl y Swydd: Hyfforddwr NDORS Llawrydd Lleoliad: Wales Trosolwg Mae Grŵp TTC am ehangu ein panel o hyfforddwyr diogelwch ar y ffyrdd proffesiynol. Rydym yn darparu cyrsiau Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru (NDORS) dan gyfeiriad yr Heddlu i dros 750,000 o yrwyr bob blwyddyn, ac rydym wrthi’n recriwtio ar gyfer hyfforddwyr newydd i ymuno â’n panel ledled: Bangor/Porthmadog Cardiff and Swansea Cyfrifoldebau Allweddol Cyflwyno cyrsiau NDORS ar-lein a, lle bo'n berthnasol (os ydych yn byw yn un o'n hardaloedd wedi’u contractio gan yr heddlu), darparu sesiynau ystafell ddosbarth. Darparu hyfforddiant ysgogol a rhyngweithiol i ystod eang o gyfranogwyr yn unol â safonau NDORS. Cynnal safonau proffesiynol a chydymffurfio â holl ofynion a manylebau sydd yn ymwneud â chyflwyno cyrsiau NDORS Pam Ymuno â Ni? Hyblygrwydd : Gwaith llawrydd/hunangyflogedig, felly gallwch ddewis pa mor aml rydych yn gweithio a threfnu gwaith o gwmpas eich ymrwymiadau eraill Cyfraddau Cystadleuol : £65 to £72 am bob cwrs 3 awr a ddarperir, gyda’r opsiwn o gyflwyno hyd at 3 cwrs y diwrnod (£195 o enillion dyddiol posibl) Cyrsiau Cymraeg eu hiaith –Cewch £25 ychwanegol am bob sesiwn a ddarperir mewn cyrsiau Cymraeg eu hiaith, tâl arferol am gyrsiau nad ydynt yn Gymraeg Datblygiad Cynhwysfawr ar gyfer Hyfforddwyr. Rydym yn cefnogi pob ymgeisydd trwy broses achredu NDORS ac yn darparu'r holl alluoedd craidd i gyflwyno'r gyfres gyfredol o gyrsiau hyfforddi diogelwch ar y ffyrdd NDORS. Gofynion Rhaid cwrdd â manyleb person NDORS Bod wedi cwblhau gwiriad DBS Uwch (neu fod yn fodlon ei gwblhau) bob 12 mis Bod ag Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus/Indemniad Proffesiynol (neu fod yn fodlon ei gael). Meddu ar sgiliau cyfathrebu a chyflwyno rhagorol, gyda'r gallu i ymgysylltu â grwpiau amrywiol o gyfranogwyr a’u hysgogi Darparu offer IT addas i gynnal a chyflwyno cyrsiau ar-lein. Gweler gofynion system lleiaf [Insert link to a document] Sut i Ymgeisio Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer swydd ar ein panel hyfforddwyr, cliciwch [Insert link to application form] – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych Amrywiaeth a Chynhwysiant Rydym yn cydnabod y gall unigolion ag un neu fwy o nodweddion gwarchodedig wynebu rhwystrau yn y farchnad swyddi ac y eu gyrfa. Rydym yn gwbl ymroddedig i fod yn gyflogwr cynhwysol a darparu cyfle cyfartal i bawb. Rydym yn ymdrechu i adeiladu gweithlu amrywiol ac yn annog ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), pobl anabl, ac unigolion â hunaniaethau rhywedd amrywiol. Gwybodaeth am Grŵp TTC Mae Grŵp TTC yn ddarparwr blaenllaw o gynlluniau hyfforddi gyrwyr dan gyfeiriad yr heddlu a’r llys, ac mae’n gweithio’n agos gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith ledled y DU i wella diogelwch ar y ffyrdd a lleihau aildroseddu. Am ragor o wybodaeth amdanom ni, ewch i www.thettcgroup.com. Sylwer: Trwy gyflwyno eich cais, rydych yn cadarnhau eich bod yn gymwys i weithio yn y DU.