Deputy Headteacher - Ysgol Gynradd Gymraeg
Salary: 55,900 - 61,705 *
Please note that the advertised salary for this position is subject to a pending pay award. The final salary will be adjusted in line with the nationally agreed pay award.
The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Yn sgîl penodiad y Dirprwy Bennaeth presennol i rôl y Pennaeth, mae Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn awyddus i benodi unigolyn ymroddedig ac ysbrydoledig ar gyfer yr ysgol gynradd gymunedol boblogaidd hon. Lleolir Ysgol Gymraeg Aberystwyth ar gyrion tref glan y môr Aberystwyth yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol. Dyma ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru a sefydlwyd yn 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards.
Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn ysgol gynradd fawr, hynod lwyddiannus, gyda 365 o ddisgyblion ar y gofrestr. Daw'r plant atom o dref Aberystwyth ac o'r ardaloedd gwledig cyfagos.
Mae holl waith a bywyd yr ysgol yn seiliedig ar dri nod cytûn ar gyfer ei disgyblion a'i staff, sef hybu balchder yn eu Cymreictod, parchu ei gilydd a gwneud eu gorau glas. Mae'r nodau hyn yn treiddio'n gryf iawn trwy holl weithgareddau'r ysgol. Mae llais y disgybl yn bwysig ac yn cael ei barchu drwy'r ysgol. Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd pellach i ragori yn y dyfodol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
* cefnogi'r Pennaeth o ran datblygiad yr ysgol hon sydd wedi ei hen sefydlu ac sy'n rhoi lle canolog i'r Gymraeg yn y gymuned
* cydlynu a gwneud trefniadau addas ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
* y gallu i annog disgyblion i gofleidio'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn llawn ac i annog rhieni i gefnogi'r Gymraeg adref
* dealltwriaeth o arferion dysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i'w datblygu drwy'r ysgol yn y dyfodol
* medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu
* dealltwriaeth o bwysigrwydd datblygiad unigol pob disgybl er mwyn iddynt gyflawni ei lawn botensial
* gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol a gwir ddiddordeb yn y maes
* ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus
Dyddiad Cau: Dydd Gwener, yr 2ail o Fai 2025 (hanner nos)
Cyfweliadau: Dydd Mawrth, 13eg o Fai 2025 (gofynnir i ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael ar y diwrnod hwn)
Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Dirprwy Bennaeth Yr Ysgol Gymraeg lle mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
What we offer
* Work-life balance
* Lifestyle savings scheme
* Generous employer pension scheme
* Cycle to work scheme
* Learning and development
Where you'll work
Schools and Culture We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows:
* School Improvement: Leadership; Support and Challenge, Teaching and Learning; Digital Literacy; Literacy and Numeracy; Welsh in Education
* Additional Learning Needs: Provision for pupils with Additional Learning Needs, Inclusion; Attendance; Educational Psychology
* Pupil Wellbeing: Counselling; Welfare; Anti-Bullying, Pupil Voice
* Education Governance: Data; Governor Support, Policy support
* School Admissions
* Culture: Music Service; Cered; Felinfach Theatre; Museum
* Infrastructure and Resources: Planning School Places; Modernisation and Twenty First Century Schools Programme; Buildings; Grants
* Catering: Day Centres; Primary Schools; Residential homes.
* Childcare Unit: Childcare Sufficiency Assessment; Childcare & Play Grant; Childcare Offer; Out of School (After School Clubs and Holiday Playschemes); Day Nursery, Cylch/Playgroup & Childminder business support and staff training
Aberystwyth Aberystwyth is a lively university town, seaside resort complete with promenade and pier, and the setting of atmospheric TV drama Hinterland.
#J-18808-Ljbffr