The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Mae Ysgol Bro Teifi yn edrych i ehangu’r nifer oruchwylwyr arholiadau a gyflogir yn yr ysgol.
Mae’r swydd yn cynnwys goruchwylio arholiadau ar gyfer Blynyddoedd 9 i 13, gan sicrhau bod yr holl reolau ar gyfer arholiadau yn cael eu dilyn.
Nid oes oriau penodol ond mae prif cyfnodau’r arholiadau ym mis Tachwedd, Ionawr, Mai a Mehefin.
Bydd hyfforddiant ar gynnig i’r ymgeiswyr llwyddiannus er mwyn sicrhau ein bod yn cadw hygrededd y broses arholi ac yn dilyn canllawiau’r cyrff dyfarnu.
Os am sgwrs pellach am y rôl, cysylltwch gyda’r Swyddog Arholiadau, Mr Rhydian Jones yn yr ysgol.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
Disability Confident
About Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident .