Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth / Welcome & Service Assistant - Pwllheli Summary Fel Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth, chi fydd yn cyfarch ein hymwelwyr, yn darparu croeso cynnes, siriol ac yn rhannu gwybodaeth am ein safleoedd a’r gwaith pwysig rydym yn ei wneud. Byddwch yn sicrhau bod pob ymwelydd yn cael ymweliad pleserus a chofiadwy. Yn y r l hon, byddwch yn gweithio ar draws pedwar maes parcio arfordirol ym Mhorthor, Porthdinllaen, Llanbedrog, ac Aberdaron, yn ogystal ’n canolfan ymwelwyr, Porth y Swnt. Mae hon yn r l cyfnod penodol hyd at 21/09/25 a bydd disgwyl ichi weithio o 10yb i 4yp, hyd at 5 diwrnod yr wythnos. Os ydych yn berson cyfeillgar a siaradus, sydd wrth eich bodd gyda’r awyr agored a Phen Ll n, rydym yn awyddus iawn i glywed gennych chi. Ar gyfer y r l hon, bydd angen i chi gwblhau ein hasesiad ar-lein yn hytrach na defnyddio CV neu ffurflen gais ar-lein. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall mwy am eich cryfderau ac yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y r l. Noder bod y gallu i sgwrsio’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal chludiant dibynadwy i bob lleoliad, yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal wythnos yn dechrau 28 Ebrill What it's like to work here Sut beth yw gweithio yma Mae Ll n yn ardal o harddwch naturiol eithriadol, gyda chyfoeth o ddiwylliant, hanes a bywyd gwyllt. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn falch o warchod dros 20 filltir o’r arfordir hwn, gan sicrhau bod harddwch a threftadaeth Ll n yn cael eu cadw am genedlaethau. Mae ein pedwar maes parcio arfordirol yn safleoedd sy'n cynnig mynediad hawdd i ymwelwyr i draethau hardd, Llwybr Arfordir Cymru, a thrysorau niferus yr ardal ehangach. Yn ogystal 'r meysydd parcio, mae ein canolfan ymwelwyr, Porth y Swnt yn hafan groesawgar sy’n ysbrydoli ymwelwyr i grwydro Ll n.Fel Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth, byddwch yn atebol i’r Rheolwr Croeso ac yn gweithio fel rhan o d m ymroddedig ar draws y lleoliadau hardd hyn. Gyda'ch gilydd, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad gwych. What you'll be doing Beth fyddwch chi'n ei wneud Yn y r l hon, byddwch yn darparu ein hymwelwyr gyda gwasanaeth cwsmer eithriadol ac addysgiadol, gan eu paratoi am brofiad arbennig a chofiadwy am weddill y diwrnod. Fel elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, rydym yn gweithio’n galed i godi arian hanfodol i ofalu am y dreftadaeth yn ein gofal. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyrraedd targedau recriwtio aelodaeth a rheoli prosesau talu yn y meysydd parcio.Byddwch hefyd yn gyfrifol am gyflwyniad o safon uchel ar draws ein safleoedd, gan gynnwys glanhau toiledau a chodi sbwriel yn rheolaidd. Byddwch yn gyfforddus yn gweithio bron bob penwythnos a gwyliau banc. Who we're looking for Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os ydych yn: Chwaraewr t m sy'n mwynhau gweithio tuag at nodau a thargedau cyffredin Gallu gweithio'n annibynnol heb fawr o oruchwyliaeth Cyfeillgar, cymwynasgar, gydag agwedd bositif Brwdfrydig ac awyddus i ddysgu Yn ymwybodol o bwysigrwydd darparu gwasanaeth eithriadol Cynnal safonau uchel o gyflwyniad Hyblyg ac addasadwy yn eich agwedd The package Y pecyn Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd. Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed) Cynllun benthyciad blaendal rhent Benthyciad tocyn tymor Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas hyd y gwasanaeth, yn ogystal chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol. Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl Rhaglen cynorthwyo cyflogai Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi.