Yn sgil penodiad ein Pennaeth presennol i ysgol uwchradd o fewn yr ardal, mae Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn awyddus i benodi olynydd ymroddedig ac ysbrydoledig ar gyfer yr ysgol gynradd gymunedol boblogaidd hon. Lleolir Ysgol Gymraeg Aberystwyth ar gyrion tref glan y môr Aberystwyth yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol. Dyma ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru a sefydlwyd yn 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards.
Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn ysgol gynradd fawr, hynod lwyddiannus, gyda 365 o ddisgyblion ar y gofrestr. Daw’r plant atom o dref Aberystwyth ac o’r ardaloedd gwledig cyfagos.
Mae holl waith a bywyd yr ysgol yn seiliedig ar dri nod cytûn ar gyfer ei disgyblion a’i staff, sef hybu balchder yn eu Cymreictod, parchu ei gilydd a gwneud eu gorau glas. Mae’r nodau hyn yn treiddio’n gryf iawn trwy holl weithgareddau’r ysgol. Mae llais y disgybl yn bwysig ac yn cael ei barchu drwy’r ysgol.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd pellach i ragori yn y dyfodol. Rydym am benodi unigolyn profiadol sy’n meddu ar nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth rhagorol ac a fydd yn:
1. hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb tra’n hyrwyddo cymuned gefnogol a chynhwysol
2. annog ac yn cefnogi disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol ac uchelgeisiol
3. ysbrydoli ac yn hybu datblygiad staff o ran addysgu a dysgu arloesol
4. annog ymrwymiad rhieni a’r gymuned o fewn yr ysgol
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
1. gweledigaeth glir o ran datblygiad yr ysgol hon sydd wedi ei hen sefydlu ac sy’n rhoi lle canolog i’r Gymraeg yn y gymuned
2. y gallu i annog disgyblion i gofleidio’r diwylliant a’r iaith Gymraeg yn llawn ac i annog rhieni i gefnogi’r Gymraeg adref
3. dealltwriaeth o arferion dysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i’w datblygu drwy’r ysgol yn y dyfodol
4. medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu
5. dealltwriaeth o bwysigrwydd datblygiad unigol pob disgybl er mwyn iddynt gyflawni ei lawn botensial
6. gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol a gwir ddiddordeb yn y maes
7. ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîm er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau posib i bob disgybl
8. ymrwymiad cryf i gyfoethogi’r cysylltiadau gyda’r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion eraill a’r Urdd
Mae croeso i ymgeiswyr sy’n dymuno ymweld â’r ysgol cyn gwneud cais, wneud hynny drwy gysylltu â Nia Evans, Cadeirydd y Llywodraethwyr trwy EvansN410@hwbcymru.net i drefnu ymweliad. Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch ag Elen Gwenllian Davies, Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion, ar 07970 000479 neu drwy e-bost elen.gwenllian.davies@ceredigion.gov.uk
Dyddiad Cau: Dydd Llun, y 24ain o Fawrth 2025 (hanner nos)
Cyfweliadau: Dydd Mawrth, 8fed o Ebrill 2025 (gofynnir i ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael ar y diwrnod hwn) a gynhelir yng Nghanolfan Rheidol, Aberystwyth
Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Pennaeth Yr Ysgol Gymraeg lle mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol. Rhaid i bob ymgeisydd feddu ar gymhwyster CPCP.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
#J-18808-Ljbffr