Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn Canol Dydd 18 Ebrill 2025
Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru'r swydd wag barhaol uchod yn ei Weithdai Fflyd a Pheirianneg a leolir ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, CF72 8LX.
Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn gweithredu fflyd o dros 450 o gerbydau math cymysg ynghyd â fflyd o beiriannau trymion mawr ac amrywiol. Mae'r swydd yn golygu gweithio fel rhan o dîm sy'n gwasanaethu, trwsio a chynnal a chadw amrediad eang o gerbydau arbenigol, peiriannau trymion ac offer y Gwasanaethau Tân ac Achub.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cyflawni prentisiaeth ymrwymedig/fodern gydnabyddedig a pherthnasol ynghyd â meddu ar o leiaf Tystysgrif Sefydliad y Ddinas a’r Urddau Rhan 2 mewn Crefft Cerbydau NEU NVQ Lefel 3 neu gymhwyster cyfartal. Mae profiad ôl-gymhwysol profedig mewn trwsio a chynnal a chadw Cerbydau Nwyddau Mawr, gwaith awto drydanol, hydroleg, a saernïo hefyd yn ofynnol.
Mae'r swydd yn gofyn i chi gymryd rhan mewn system amserlen argyfwng wrth gefn ‘y tu allan i oriau gwaith’ sy'n gofyn i chi ymateb yn syth a mynychu unrhyw leoliad ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos o fewn neu’r tu allan i ardal gweithredu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Cyfrifoldebau:
I fod yn gyfrifol am wasanaethu, trwsio a chynnal a chadw cerbydau, peiriannau trymion ac offer GTADC yn ddyddiol gan gynnwys profi gweithdrefnau archwilio a phrofi.
I weithio fel gweithredwr aml-sgiliau gan ymgymryd â'r disgyblaethau canlynol:- darganfod a chywiro diffygion systemau mecanyddol a thrydanol, defnyddio prosesau weldio amrywiol i drwsio a saernïo, asesu diffygion a thrwsio systemau hydroleg a niwmatig.
I gyfranogi mewn hyfforddiant a mentora Prentisiaid a Hyfforddai.
I gasglu a darparu cerbydau, peiriannau trymion ac offer ar gyfer trwsio / cynnal a chadw o fewn neu'r tu allan i ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
I fod yn gyfranogol yng nghynllun wrth gefn 24 awr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fel rhan o'r amserlen ddyletswydd a chyflawni oriau ychwanegol rhesymol y tu allan i oriau gwaith yn ôl y gofyn.
I fynychu ar benwythnosau a thu hwnt i oriau gwaith cyffredin i fodloni gofynion y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Y Fanyleb Person
HANFODOL
Tystysgrif Sefydliad y Ddinas a'r Urddau mewn Celfyddyd Cerbydau Modur Rhan 2.
NEU NVQ Lefel 3, NEU gymhwyster cyfartal.
Prentisiaeth Ymrwymedig/Fodern drwy law Prif Ddelwriaeth, Prif Wneuthurwr neu gymhwyster cyfartal.
Trwydded Yrru Lawn Categori B (Car). Bodlonrwydd i hyfforddi ar gyfer Trwydded Categori C os nad ydych yn meddu ar un eisoes.
Profiad ôl gymhwysol profedig mewn trwsio, a chadw a chynnal Cerbydau Nwyddau Mawrion neu gymhwyster cyfartal.
Gwybodaeth a phrofiad cynhwysfawr wrth drwsio a chynnal a chadw Cerbydau Nwyddau Mawrion math Categori C neu Gerbydau Cludo Teithwyr math categori D.
Profiad o weithio ar ystod eang o fathau o brif fframiau a systemau cerbydau.
Gwybodaeth ymarferol o systemau awto drydanol.
Y gallu i anwesu a chynnig gwerth i amrywiaeth ac arddangos agwedd deg a moesol ym mhob sefyllfa.
Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig ill dau i ystod eang o wahanol gynulleidfaoedd.
Ymrwymiad i a’r gallu i ddatblygu eich hun, unigolion, timau ac eraill er mwyn gwella effeithiolrwydd gweithredol.
Y gallu i gynnal ymwybyddiaeth fyw o’r amgylchfyd i hyrwyddo gweithio diogel ac effeithiol.
DYMUNOL
Cyrsiau Fframwaith Cerbyd a chyrsiau Cyflenwyr perthnasol.
Peth profiad o weldio a saernïo (dur ac aloi).
Profiad o weithio mewn prif ddelwriaeth cerbydau neu ddarparwr gwasanaeth masnachfraint sy'n cynrychioli Prif Wneuthurwr Cerbydau Nwyddau Mawrion sy'n gydnaws ag egwyddorion proffil fflyd GTADC.
Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cytundeb: Parhaol
• Gradd: 9
• Cyflog: £33,366 to 35,235 per annum
• Dyddiad cau: 37
• Rhif y Swydd: 504984