Mae’r ysgol yn awyddus i benodi Technegydd Cymorth Gwyddoniaeth i swydd llawn amser (cytundeb blwyddyn yn y man cyntaf) yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera. Mae posibilrwydd cryf i ymestyn y cytundeb yn barhaol, yn ôl diddordeb a gyda chymorth datblygiad proffesiynol a phrofiad dilynol.
Rydym yn chwilio am unigolyn i gefnogi ein cwriwcwlwm newydd cyffrous, i gysgodi technegydd profiadol a darparu cefnogaeth i’r adran Peirianneg a Ffiseg yn absenoldeb y technegydd parhaol. Bydd disgwyl i chi weithio fel rhan annatod o dîm Gwyddoniaeth cefnogol, llwyddiannus a sefydlog iawn. Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys gwasanaethu labordai, cyflawni dyletswyddau technegwyr cyffredinol a chynnig cymorth i gyflwyno'r cwricwlwm Gwyddoniaeth fel y bo'n briodol. Byddai cefndir gwyddonol yn fantais ond nid yw'n hanfodol.
Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn gyfle gwych i unrhyw un sydd eisiau gweithio mewn ysgol cefnogol ac uchelgeisiol. Rydym yn anelu am ragoriaeth ar bob lefel ac yn annog pob disgybl i fod yn ddysgwr gydol oes effeithiol. Mae cymuned yr ysgol yn gyfoethog gyda chlybiau amrywiol a chymorth i fyfyrwyr, er mwyn sicrhau bod pob unigolyn yn cyflawni eu potensial. Mae datblygiad pob aelod o gymuned yr ysgol yn bwysig i ni a byddwn yn darparu hyfforddiant a chymorth i ymgeiswyr er mwyn sicrhau llwybr gyrfa llwyddiannus.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy lythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd yn ogystal â’r ffurflen gais atodedig. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon. Mae’r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad diogelu trylwyr
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 25.10.2024
Dyddiad dechrau y swydd: Cyn gynted â phosib---The school is keen to appoint a Science Support Technician to a full-time post (initially a one-year contract) at Ysgol Gymraeg Ystalyfera. There is a strong possibility to extend the agreement permanently, both by interest and with the help of professional development and subsequent experience.
We are looking for an individual to support our exciting new curriculum, shadow an experienced technician and provide support to the Engineering and Physics department in the absence of the permanent technician. You will be expected to work as an integral part of a very supportive, successful and stable Science team. Your main duties will include serving laboratories, performing general technician duties and offering support to deliver the Science curriculum as appropriate. A scientific background would be an advantage but not essential.
Ysgol Gymraeg Ystalyfera is a great opportunity for anyone who wants to work in a supportive and ambitious school. We aim for excellence at all levels and encourage all pupils to be an effective lifelong learner. The school community is rich with diverse clubs and student support, to ensure that each individual fulfils their potential. The development of all members of the school community is important to us and we will provide training and support to candidates to ensure a successful career path.
If you would like more details about this post and for an informal chat please contact the Headteacher, Mrs Laurel Davies.
Application Process
Applications for this position could be made by an application letter expressing interest for undertaking the position as well as the attached application form. Relevant experience can be mentioned for this position. This position is dependent on a thorough protection checkDeadline: Friday 25.10.2024
Job start date: As soon as possible