Mae gan y Comisiwn Etholiadol gyfle cyffrous i Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ymuno â'u tîm!
Teitl y Swydd: Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Cyfarwyddiaeth: Datganoli, Llywodraethu, a’r Gyfraith
Cyflog cychwynnol: £34,839
Math o Swydd: Parhaol/Llawn amser (mae opsiynau gweithio oriau hyblyg ar gael)
Lleoliad: Caerdydd
Dyddiad cau: Dydd Gwener 8 Tachwedd am 5pm
Gweithio yn y Comisiwn Etholiadol:
Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd.
Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant - Y Rôl:
Bydd y rôl yn cefnogi nod y Comisiwn i gynyddu hyder y cyhoedd yn y system ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd. Ein gweledigaeth yw bod gan bobl ffydd mewn etholiadau, eu bod yn rhoi gwerth arnynt ac yn cymryd rhan ynddynt. Dim ond os oes gennym ddiwylliant cynhwysol gyda chynrychiolaeth gweithlu amrywiol y gellir cyflawni hyn. Mae angen i ni hefyd ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ddeall ac ymateb i anghenion amrywiol yr etholwyr, gan ystyried effeithiau cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn i wneud democratiaeth yn hygyrch i bawb ledled y DU.
Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – Cyfrifoldebau Allweddol:
- Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, dod o hyd i wybodaeth, a rheoli cyfathrebu mewnol i godi ymwybyddiaeth ac addysgu staff
- Casglu tystiolaeth ar gyfer adroddiadau a chynlluniau gweithredu i sicrhau cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau statudol
- Ymchwilio i arferion gorau a hyrwyddo dyddiadau cynhwysiant allweddol, gan gydweithio â thimau i ymgorffori cynhwysiant
- Gweithredu strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Comisiwn a sicrhau cydymffurfiaeth ar draws y sefydliad
- Nodi a hyrwyddo camau gweithredu i gefnogi grwpiau sydd wedi’u tan-gynrychioli a darparu adroddiadau i bwyllgorau
- Cefnogi rhwydweithiau staff, mynd i'r afael â heriau, a meithrin newid cadarnhaol
- Casglu a dadansoddi data Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan weithio gyda thimau i asesu effaith mentrau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – Chi:
- Gwybodaeth am Ddeddfwriaeth Cydraddoldeb y DU: Gallu rhoi cyngor gwybodus ar gyfreithiau a rheoliadau perthnasol
- Gweithio Annibynnol a Chydweithio: Gallu gweithio’n annibynnol, yn ogystal â chefnogi timau i roi mentrau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant amrywiol ar waith
- Meithrin Perthynas: Yn fedrus wrth ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol gyda thimau ar draws y pedair gwlad a phartneriaethau arwyddocaol gydag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys rhwydweithiau staff, cynrychiolwyr pwyllgorau a phartneriaid allanol
- Asesiad Dadansoddol ac Asesiad o Effaith: Gallu nodi effeithiau cydraddoldeb a defnyddio data i ddylanwadu ar benderfyniadau a strategaethau
- Dylanwad a Datrys Gwrthdaro: Gallu dylanwadu ar eraill, rheoli heriau a galluogi grwpiau staff i gyflawni amcanion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Cyfathrebu ac Eiriolaeth: Yn gyfrifol am hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i sicrhau newid cadarnhaol a meithrin arferion gwaith cynhwysol
Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – Buddiannau:
Mae’r Comisiwn Etholiadol yn cynnig telerau ac amodau rhagorol, gan gynnwys:
- Oriau gwaith hyblyg
- Gweithio o bell
- Cyfle i ymuno â threfniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil (yn dibynnu ar reolau’r cynllun)
Y Broses Gwneud Cais:
CV Dienw: Er mwyn cadw at ein hymrwymiad i recriwtio dienw, sicrhewch fod pob cyfeiriad at sefydliadau addysgol (blynyddoedd presenoldeb ar gyfer addysg gynradd ac uwchradd) a gwybodaeth bersonol yn cael eu dileu. Mae hyn yn ein galluogi i asesu ymgeiswyr ar sail eu gwybodaeth a'u sgiliau yn unig, heb unrhyw ragfarn sy'n ymwneud â chefndir, rhyw neu ethnigrwydd.
Rydym am ddenu’r ystod ehangaf o bobl dalentog sy’n angerddol am ddemocratiaeth. Po fwyaf amrywiol yw ein gweithlu, y gorau y gallwn addasu i ac adlewyrchu anghenion cymdeithas. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir ac fel aelod o staff byddwch yn dod yn rhan o ddiwylliant cynhwysol, lle byddwch yn cael y cyfle i gyflawni eich potensial llawn a gwella eich gyrfa trwy ddysgu a datblygu.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 8 Tachwedd am 5pm
Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar 25 Tachwedd 2024. Sicrheir cyfweliad i bob ymgeisydd sydd ag anabledd pan fyddant yn bodloni gofynion sylfaenol y rôl.
Efallai y byddwn yn defnyddio offer fideogynadledda ar gyfer y cyfweliadau. Byddwn yn cadarnhau’r manylion gyda’r ymgeiswyr ar y rhestr fer. Gellir gwneud addasiadau ar gyfer ymgeiswyr yn ystod y broses recriwtio os oes angen.
I wneud cais am swydd y Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, cyflwynwch eich CV ynghyd â datganiad ategol yn amlinellu eich sgiliau a'ch profiad perthnasol. Cliciwch ‘Gwnewch gais’ nawr i gael eich ystyried ar gyfer y cyfle cyffrous hwn