GWASANAETH TÂN AC ACHUB DE CYMRU
Cyfrifydd Rheoli
GRADDFA 14
CYFLOG: £42,403 – 43,421
Parhaol
Rhif y Swydd: 505664
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw un o’r Gwasanaethau Tân ac Achub mwyaf yn y DU sy’n gwasanaethu dros 1.5 miliwn o bobl ar draws 10 Awdurdod Unedol Cyfansoddol gan ymestyn o Ben-y-bont ar Ogwr i Drefynwy ac o Fae Caerdydd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn yr adran Cyllid, Caffael ac Eiddo ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân. Rydym yn chwilio am Gyfrifydd Rheolaeth medrus i ymuno â'n tîm bywiog a chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu ein strategaeth ariannol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod cymwys CCAB e.e. CIPFA, CIMA, ACCA neu gyfwerth a bod yn gyfrifol am fonitro ac adrodd ar y gyllideb refeniw flynyddol, h.y £96 miliwn ar gyfer 2024/25, ac yn cyfrannu at baratoi’r datganiad cyfrifon blynyddol. Mae arbenigedd ym meysydd cynllunio, dadansoddi a rheoli ariannol yn hanfodol wrth ddarparu gwybodaeth a chyngor i gefnogi gwneud penderfyniadau.
Bydd sgiliau cadarn o ran rheoli cyfrifeg a phobl yn hanfodol i gefnogi gwaith y tîm cyllid ac uwch arweinwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Yr oriau gwaith yn gyffredinol fydd 37 awr yr wythnos ac mae'r Gwasanaeth yn cynnig ystod o fuddion fel rhan o'i becyn cyflogaeth.
• Trefniadau gweithio hyblyg
• System hyblyg
• Campfa a chyfleusterau lles am ddim
• Parcio am ddim
• Polisïau ystyriol o deuluoedd
Mae sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Gallai'r rôl hon yn gofyn am deithio rhwng safleoedd ledled De Cymru ac felly mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio'n annibynnol, a bydd angen gwiriad trwydded yrru.
Gellir canfod mwy o fanylion mewn perthynas â'r swydd hon o fewn y Swydd-Ddisgrifiad a'r Fanyleb Person. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ychwanegol, mae croeso i chi gysylltu â'r Rheolwr Llinell, Jen Sambell drwy law e-bost j-sambell@decymru-tan.gov.uk.
I wneud cais…
Dylid llenwi Ffurflenni Cais ar-lein drwy law ein system e-recriwtio, y gellir ei chyrchu drwy ein gwefan:
Os oes angen fersiwn papur, mae croeso i chi anfon e-bost: personel@decymru-tan.gov.uk
Dylai ymgeiswyr mewnol ymgeisio drwy law eu porth CORE, gan ddewis ‘Swyddi Gwag Cyfredol’ o’r tab ar y chwith.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 04.11.2024 a 12:00pm.
Cynhelir y Cyfweliadau/Proses Ddethol i'w cynnal ym mis Tachwedd.
Manylion Ychwanegol
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â Phrawf Cyffuriau ac Alcohol cyn y gwneir penodiad.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn destun gwiriad DBS boddhaol
Rydym yn sefydliad sy’n ystyriol o deuluoedd ac mae system gweithio hyblyg ar waith.
Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Gymraeg.
Mae croeso i chi gyfathrebu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ffurflenni cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn credu yng ngwir werth gweithlu amrywiol ac rydym am annog ymgeiswyr o bob sector o'n cymuned i ymgeisio.