Am Y Gwasanaeth Mae’r Tîm Cyllid o fewn y Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd yn hanfodol i ddatblygu a darparu rhaglenni cyfalaf gwerth miliynau o bunnoedd ledled y ddinas. Gan weithio mewn arena gymhleth sydd yn aml yn heriol yn ariannol, rydym yn chwilio am Bartner Busnes Prosiectau a Chyllid i gefnogi sawl tîm prosiect. Am Y Swydd Fel Partner Busnes Prosiectau a Chyllid, bydd angen i chi reoli a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am amrywiaeth o brosiectau ar wahanol gamau. Bydd angen i chi feithrin cysylltiadau cryf o fewn timau prosiect gan sicrhau bod eich cyngor a'ch arweiniad yn cael eu clywed a'u deall. Bydd y rôl yn cynnwys: Paratoi achosion busnes ariannol ar gyfer amrywiaeth o brosiectau cyfalaf Cydbwyso dyddiadau cau sy’n gwrthdaro a darparu trosolwg ariannol o raglenni cyfalaf Goruchwylio a monitro perfformiad a risg ariannol Cynnal asesiad cylch bywyd ariannol Ymwreiddio o fewn timau prosiect i gefnogi a herio datblygu a rheoli prosiectau Mae'r rôl yn amrywiol ac yn brysur iawn. Byddwch yn cydgysylltu â llawer o wahanol dimau prosiect ar draws y gyfarwyddiaeth a bydd angen i chi feithrin perthnasoedd cadarnhaol â chyllidwyr presennol ac yn y dyfodol. Beth Rydym Ei Eisiau Gennych Bydd gennych gefndir mewn cyllid, gyda'r sgiliau allweddol canlynol: Profiad helaeth o weithio gyda phartneriaid ariannu allanol a thimau ymgynghori i gyflawni prosiectau cyfalaf graddfa fawr. Profiad o weithio gyda Llywodraeth Cymru neu sefydliad tebyg wrth baratoi a rheoli cyllid grant Hanes â thystiolaeth o fonitro a rheoli risg Hyfedredd gyda SAP (neu system reoli ariannol debyg) Profiad o baratoi adroddiadau cynllunio a monitro ariannol manwl a chymhleth Y gallu i weithio i derfynau amser caeth a rheoli blaenoriaethau croes Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf Y gallu i drefnu eich hun ac eraill er mwyn blaenoriaethu gwaith a bwrw targedau. Gwybodaeth Ychwanegol I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Deborah Samuel, DeSamuelcaerdydd.gov.uk Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Canllawiau Gwneud Cais Gwneud cais am swydd â ni Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol Siarter y Gweithwyr Recriwtio Cyn-droseddwyr Nodyn Preifatrwydd